Ffosffad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cyfeiriad at batholeg ddynol. (Rwy'n cael trafferthion gydag ail ddefnydd "<ref>" o fewn "{{Chembox}}")
Llinell 61:
Mae bywyd yn dibynnu ar reolaeth lwyr o'r holl brosesau biofoleciwlar. Gellir ystyried hyn yn rhan o ddiffiniad bywyd. Digwydd ar sawl lefel ac mae ffosffad yn chwarae rhan yn nifer ohonynt. Sonnir uchod am ei rôl yng nghyfundrefn [[DNA]]/[[RNA]] (rheoli trawsgrifio a throsi [[Protein|proteinau]]) ond hefyd chwara rhan wrth reoli [[Ensym|ensymau]] yn uniongyrchol. Yn aml iawn fe gynnir a ddiffoddir actifedd ensym trwy ei gyfuno a a'i ryddhau oddiwrth ffosffad (megis switsh). Fel rheol trosglwyddir y ffosffad i'r protein o ATP trwy gyfrwng ensymau Cinas ac fe'i rhyddheir gan ensymau Ffosffatas. Mae cannoedd o wahanol fathau o'r rhain mewn celloedd (tua 500 yn y genom dynol) - ac mae eu deall yn destun ymchwil allweddol i ddeall clefydau megis [[cancr]] - heb son am sut y maent yn cynnal y corff iach.
 
At lefel mwy macrosgobig, ffosffad (ynghyd a [[Calsiwm|chalsiwm]], Ca<sup>2+</sup>) yw brif gynhwysiad [[Asgwrn|esgyrn]] a [[Dant|dannedd]]. Mae anghytbwysedd batholegol yn lefel ffosffad yn y corff ddynol (hyper- a hypo-ffosffademia) yn arwain at anhwylderau<ref> {{eicon en}} {{cite web|title = Phosphates – PubChem Public Chemical Database|url = http://pubchem.ncbi.nlm.nih.gov/summary/summary.cgi?cid=1061&loc=ec_rcs|work = The PubChem Project|location = USA|publisher = National Center of Biotechnology Information}}</ref>.
 
Daw ymddygiad gwenynig drwgenwog "[[Arsenig]]" (fel arfer ar ffurf arsenad) yn rhannol oherwydd ei berthynas (grŵp 15) a ffosfforws. Mae arsenad yn "edrych" ac yn ymddwyn yn debyg iawn i ffosffad i nifer o [[Ensym|ensymau]] hanfodol i fywyd. Ar yr un trywydd, yn 2010 ymddangosodd adroddiad safonol (yn ''Science'')<ref>{{eicon en}} https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21127214</ref> yn honni darganfod [[Bacteria|bacteriwm]] oedd yn defnyddio arsenad yn lle ffosffad mewn [[DNA]]. Camgymeriad oedd hwn<ref>{{eicon en}} http://scienceblogs.com/webeasties/2010/12/05/guest-post-arsenate-based-dna/ (er enghraifft) Darllennwyd 17 Ebrill 2017. </ref>.