Yr Oesoedd Canol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B →‎Y Croesgadau: clean up, replaced: 13eg ganrif → 13g using AWB
Llinell 24:
:''Prif erthygl: [[Y Croesgadau]].''
[[Delwedd:BNF, Mss fr 68, folio 70.jpg|200px|bawd|Gwarchae [[Antioch]] 1098, yn ystod [[y Groesgad Gyntaf]].]]
Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd [[Cristnogaeth|Cristnogol]] [[gorllewin Ewrop]]) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig [[Palesteina]] oddi ar y [[Islam|Mwslemiaid]] oedd [[y Croesgadau]], a hynny rhwng 1095 a diwedd y 13eg ganrif13g. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes. Roedd croesgadu yn digwydd yn nwyrain Ewrop hefyd, yn erbyn "[[pagan]]iaid" y [[Baltig]].
 
Ymladdwyd y Croesgadau yn y [[Lefant]] yn bennaf, yn enwedig ym Mhalesteina a [[Syria]] ond hefyd yn [[yr Aifft]] ac [[Asia Leiaf]]. Nid y Mwslemiaid yn unig a ddioddefodd. Creuwyd cryn anhrefn yn yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] a gyfranodd yn y pen draw at gwymp yr ymerodraeth Gristnogol honno. Pan gyrhaeddwyd [[Caersalem]] bu cyflafan erchyll ar [[Iddewon]] y ddinas a lladdwyd miloedd o bobl diniwed gan y milwyr buddugoliaethus.