Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Celtiaid"

Lleihawyd o 42 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g (2), 5ed ganrif → 5g, 3edd ganrif → 3g (2) using AWB
B (clean up)
B (clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g (2), 5ed ganrif → 5g, 3edd ganrif → 3g (2) using AWB)
[[Delwedd:Map of Europe according to Strabo.jpg|bawd|dde|200px|Map o Ewrop yn ôl yr hanesydd Groegaidd [[Strabo]].]]
 
Mae'r cyfeiriadau cynnar ar y Celtiaid yn dod gan awduron Groegaidd, ac yn ddiweddarach gan awduron Rhufeinig. Crybwyllwyd y Celtiaid am y tro cyntaf gan y [[Gwlad Groeg|Groegwr]] [[Hecataeus o Filetos]] ym [[517 CCC]]. Fe'i gelwid yn Κελτοί (''keltoi''), sydd yn golygu "pobl gudd". Dywed Hecataeus fod dinas Roegaidd Massillia ([[Marseille]]) wedi ei sefydlu yng ngwlad y [[Ligwriaid]], gerllaw gwlad y Celtiaid. Mae hefyd yn crybwyll tref Geltaidd o'r enw Nyrax, sydd yn ôl pob tebyg yn cyfateb i [[Noricum]] yn [[Awstria]].<ref>Powell ''The Celts'' t. 15</ref> Ceir y cyfeiriad enwocaf atynt gan Roegwr arall, [[Herodotus]], yng nghanol y 5ed ganrif5g CCC. Dywed ef:
 
:Mae'r afon Ister ([[Afon Donaw]]) yn dechrau gyda'r ''Keltoi'' a dinas Pyrene, ac yn llifo fel ei bod yn gwahanu Ewrop trwy'r canol (mae'r ''Keltoi'' tu draw i Bileri Ercwlff ac yn ffinio ar y Kynesiaid, sy'n byw pellaf tuag at y machlud o holl drigolion Ewrop).<ref>Herodotus ''Hanesion'' 2.33</ref>
[[Delwedd:Celts 800-400BC.PNG|chwith|bawd|250px|Mae'r ardal werdd yn dangos tiriogaeth debygol dylanwad proto-Geltaidd tua [[1000 CCC]] yn ôl un theori. Mae'r ardal brennaidd yn dangos lle ganwyd arddull a diwylliant [[La Tène]]. Mae'r ardal goch yn amlinellu'n fras yr ardaloedd Celtaidd neu dan ddylanwad Celtaidd tua [[400 CCC]]]]
 
Erbyn i awduron clasurol ddechrau crybwyll y Celtiaid yn y 6ed ganrif6g CCC., roedd pobloedd yn siarad ieithoedd Celtaidd yn ymestyn dros ran helaeth o orllewin a chanolbarth Ewrop, yn cynnwys Gâl, Prydain, rhan helaeth o Benrhyn Iberia a'r rhan o ganolbarth Ewrop i'r gogledd o'r [[Alpau]]. Credir fod y Celtiaid ar Benrhyn Iberia yn ffurfio dau ddiwylliant gwahanol, un grŵp yn y gogledd-orllewin yn cynnwys y llwythau Lwsitanaidd yn yr hyn sy'n awr yn wladwriaeth [[Portiwgal]] a llwythau yng ngogledd a gorllewin [[Sbaen]] megis yn [[Galicia]], [[Asturias]] a [[Cantabria]]. Yr ail grŵp oedd y [[Celtiberiaid]] yng nghanolbarth Sbaen. Credir eu bod hwy yn gymysgedd o Geltiaid oedd wedi ymfudo o Gâl a'r [[Iberiaid]] lleol.
 
Mae cofnod archeolegol o Geltiaid yn bresennol yng ngogledd [[yr Eidal]] cyn gynhared â'r 6ed ganrif6g CCC. Yn ôl yr hanesydd [[Diodorus Siculus]] ymosododd Celtiaid oedd yn byw i'r gogledd o'r Alpau ar ogledd yr Eidal yn 391 CCC. a meddiannu'r ardal o gwmpas dyffryn [[Afon Po]], yr ardal a alwai'r Rhufeiniaid yn [[Gallia Cisalpina]]. Y Celtiaid a sefydlodd ddinas [[Milan]].
 
[[Delwedd:Ethnographic Iberia 200 BCE.PNG|bawd|dde|240px|Y prif ardaloedd ieithyddol ar Benrhyn Iberia tua 200 CCC.<ref>[http://arkeotavira.com/Mapas/Iberia/Populi.htm]</ref>]]
 
Ymhellach i'r dwyrain, roedd teyrnas Geltaidd y [[Scordisci]] wedi sefydlu eu prifddinas yn Singidunum ([[Belgrade]] heddiw) erbyn y 3edd ganrif3g CCC. Mae hefyd lawer o olion archeolegol mewn rhannau o [[Hwngari]]. Cofnodir fod Galiaid wedi ymsefydlu yn [[Pannonia]] yn y 3edd ganrif3g CCC. oherwydd gorboblogi yng Ngâl, ac yn [[279 CCC]] ymosododd byddin o'r Galiaid hyn dan arweiniad [[Brennus (3edd ganrif CCC)|Brennus]] ar y Groegiaid, gan eu gorchfygu yn [[Thermopylae]] a cheisio anrheithio cysegr [[Apollo]] yn [[Delphi]] cyn cael eu gorfodi i encilio. Ymsefydlodd rhai o'r Celtiaid hyn yn [[Thrace]] ([[Bwlgaria]]), a symudodd un garfan i [[Anatolia]] tua [[278 CCC]], lle gelwid hwy'r [[Galatiaid]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' tt. 53-4</ref> Nododd Sant [[Sierôm]] yn y [[4g]] fod gan y Galatiaid eu hiaith eu hunain, oedd yn debyg i iaith y [[Treveri]] yng Ngâl.<ref>Powell ''The Celts'' t.23</ref>.
 
Y farn gyffredinol hyd yn weddol ddiweddar oedd bod yr ieithoedd Celtaidd wedi cyrraedd Prydain ac Iwerddon trwy i nifer fawr o Geltiaid ymfudo yno o'r cyfandir yn ystod [[Oes yr Haearn]] a disodli'r boblogaeth flaenorol. Barn llawer o ysgolheigion bellach yw na fu ymfudiad mawr o'r fath. Cred rhai bod yr ieithoedd Celtaidd wedi bod yn bresennol yn yr ynysoedd ers [[Oes yr Efydd]], ac awgrymodd Oppenheimer y gallent fod wedi bod yno ers y cyfnod [[Neolithig]].<ref>Stephen Oppenheimer ''The origins of the British'' (Constable, 2006) tt. 408-9</ref>
417,732

golygiad