Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Celtiberiaid"

Lleihawyd o 8 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB
B (→‎top: clean up)
B (→‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB)
 
Roedd y '''Celtiberiaid''' (neu Celt-Iberiaid) yn bobl sy'n cael eu crybwyll gan yr haneswyr [[Diodorus Siculus]], [[Appian]] a [[Martial]] fel pobl oedd yn gymysgedd o [[Y Celtiaid|Geltiaid]] ac [[Iberiaid]]; yn ôl [[Strabo]] yr elfen Geltaidd oedd gryfaf. Roeddynt yn byw ar [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]], yn y rhan sy'n awr yn ganol a gogledd [[Sbaen]] a gogledd [[Portiwgal]]. Ffurfiwyd hwy pan ymfudodd Celtiaid o [[Gâl]] a chymysgu a'r bobl leol.
 
Mae tystiolaeth am yr iaith [[Celtibereg|Geltibereg]] o'r ganrif gyntaf CC.. Credir fod Celtiaid yn bresennol yn Sbaen cyn gynhared a'r 6ed ganrif6g CC, pan adeiladwyd y ''castros'' gyda muriau cerrig a ffosydd amddiffynnol. Mae'n debyg fod nifer o lwythau Celtiberaidd gwahanol; y llwyth cryfaf oedd yr [[Arevaci]]. Roedd eu canolfannau o gwmpas rhannau uchaf [[Afon Tagus]] ac [[Afon Douro]], ac i'r dwyrain hyd [[Afon Ebro]].
 
Yn yr [[Ail Ryfel Pwnig]] rhwng [[Carthago]] a [[Rhufain]], Celtiberiaid oedd llawer o'r milwyr a groesodd yr [[Alpau]] gyda [[Hannibal]] i ymosod ar [[yr Eidal]]. Pan orchfygwyd y Carthaginiaid, bu raid i'r Celtiberiaid ymostwng i Rufain yn [[195 CC]] ond bu mwy o ryfela yn y blynyddoedd nesaf. Cipiwyd dinas [[Numantia]] gan [[Scipio Aemilianus Africanus]] yn 133 CC. wedi gwarchae hir. Roedd rhai Celtiberiaid yn parhau i ymladd yn erbyn Rhufain yn rhyfel [[Sertorius]], [[79 CC|79]] - [[72 CC|72]].
417,732

golygiad