Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B →‎top: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
Llinell 5:
Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr [[8g]], pan godwyd [[Clawdd Offa]], roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r [[Oesoedd Canol]] wedi dechrau. Yn sgil y goresgyniad [[Normaniaid|Normanaidd]] newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefig galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "[[Oes y Tywysogion]]". Yn [[yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru]] ar ôl cwymp [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'i frawd [[Dafydd ap Gruffudd]], cafwyd cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd [[Owain Glyndŵr]] wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd [[Harri Tudur]] [[Brwydr Bosworth|Frwydr Bosworth]] gan sefydlu [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].
 
Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif18g a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
 
Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|20fed ganrif]]. Ond er gwaethaf [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]], [[yr Ail Ryfel Byd]] a'r dirywiad ieithyddol yn y [[1970au]] a'r [[1980au]], mae Cymru heddiw yn meddu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] ac ymddengys fod yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl.