Llenyddiaeth y Dadeni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cymru: clean up, replaced: 16eg ganrif → 16g using AWB
Llinell 153:
Ond cymerodd amser i ddiwylliant Cymru newid. Parhaodd y traddodiad barddol trwy gydol y ganrif, er ei wanychu'n raddol wrth i'r beirdd golli nawdd. Cynhyrchodd y ganrif rhai o feirdd mwyaf dosbarth [[Beirdd yr Uchelwyr]], e.e. [[Lewis Môn]] (c.1480-1520), [[Tudur Aled]] (c.1480-1525), [[Lewys Morgannwg]] (c.1520-50), [[Gruffudd Hiraethog]] (m. 1564), [[Wiliam Llŷn]] (m. 1580) a [[Wiliam Cynwal]] (m. 1587). Ceir nifer o destunau rhyddiaith sy'n perthyn i draddodiad yr Oesoedd Canol hefyd, e.e. Cronicl anferth [[Elis Gruffydd]] o Chwech Oes y Byd a nifer o gyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin, Ffrangeg a Saesneg, i gyd yn destunau llawysgrif.
 
Mae'n ddiamau fod [[canu rhydd]], cerddi digynghanedd, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn y 16eg ganrif16g ceir toreth o gerddi ar fesurau a thonnau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd tebyg yn Lloegr. Ond daeth hen ffurfiau cynhenid Gymraeg i'r amlwg yn ogystal a cheir [[carol]]au cynghanedig, [[cwndid]]au a mesurau eraill. Ceir nifer fychan o destunau [[drama|dramâu]] mydryddol poblogaidd hefyd, yn cynnwys hanes y Croeshoelio ac ''Ymddiddan yr Enaid a'r Corff''. Perthyn i lenyddiaeth uwch yw'r ddrama ''[[Troelus a Chresyd]]'', a gyfansoddwyd ar ddiwedd y ganrif.
 
Gellir dosbarthu'r rhyddiaith newydd, ffrwyth y Dadeni Dysg, yn ddwy ffrwd, un gan awduron dyneiddiol Protestannaidd a'r llall gan y [[Gwrth-ddiwygwyr Cymreig]]. Cyhoeddwyd ''[[Yn y lhyvyr hwnn]]'' gan Syr [[John Price]] yn [[1546]], y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1567 gan ''[[Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd]]'' [[William Salesbury]]. Yn [[1567]] cyhoeddoedd William Salebury y [[Testament Newydd]] yn Gymraeg a chyfieithiad o'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]]. Ond ''[[Y Drych Cristianogawl]]'', gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. [[Gruffydd Robert]] oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifenodd y ''[[Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg]]'' yn [[1567]].