Phrygia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol |
|||
Llinell 3:
Teyrnas hynafol yng ngorllewin canolbarth [[Anatolia]] oedd '''Phrygia''' a ddominyddodd [[Asia Leiaf]] yn y cyfnod rhwng cwymp yr [[Hethiaid]] a goruchafiaeth [[Lydia]] (tua 1200–700 CC).
Ymsefydlodd y Phrygiaid yng ngogledd-orllewin Anatolia yn yr ail fileniwm CC. Daethant o'r [[Balcanau]], ac mae'n bosib yr oeddynt yn hanu o'r [[Thracia]]id. Yn sgil cwymp teyrnas Heth, ymfudodd y Phrygiaid i ucheldiroedd y canolbarth gan sefydlu'r brifddinas [[Gordium]] a'r ganolfan grefyddol yn [[Dinas Midas|Ninas Midas]]. Rhwng y 12fed a'r
Ychydig a wyddom am gymdeithas y Phrygiaid. [[Cwlt (addoliad)|Cwlt]] y famdduwies Cybele oedd y grefydd fwyaf. Mae'n debyg taw ffurf ar [[ffiwdaliaeth]] oedd trefn y gymdeithas, gydag phendefigaeth o farchogion llythrennog yn rheoli'r bobloedd frodorol o'u canolfannau yn Gordium a Dinas Midas. Rheolid rhai o'r tiroedd gan archoffeiriaid y cysegrfeydd mawr megis [[Pessinus]]. Yn y canol oedd y crefftwyr a'r masnachwyr, a rhai ohonynt siŵr o fod yn dramorwyr: [[Groeg yr henfyd|Groegiaid]], [[Ffenicia]]id, [[Syria]]id, ac [[Urataea]]id. Ffermio defaid oedd un o'r prif ddiwydiannau, a roedd gwlân Phrygia yn werthfawr gan fasnachwyr Groegaidd ym [[Miletus]] a [[Pergamum]]. Roedd y Phrygiaid yn weithwyr metel ac yn gerfwyr pren o fri, ac hefyd yn y [[brodwaith|brodwyr]] cyntaf ac yn enwog am eu carpedi. Roeddynt yn siarad [[Phrygeg]], iaith Indo-Ewropeaidd sydd o bosib yn perthyn yn agos i'r [[Groeg (iaith)|Roeg]].
|