Swahili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Diwylliant Swahili: clean up, replaced: 13eg ganrif → 13g using AWB
Llinell 42:
 
== Diwylliant Swahili ==
Mae traddodiad [[Barddoniaeth|barddonol]] Swahili yn un cryf. Yn ogystal â barddoni ar lafar mae cerddi ysgrifenedig Swahili ar gael ers tair canrif. Cred ysgolheigion yr iaith bod rhai o'r llawysgrifau cynharaf i oroesi yn arddangos patrymau iaith cyfnod cynharach o rai canrifoedd. Credant bod traddodiad o ysgrifennu Swahili yn bodoli ers y 13eg ganrif13g ond nad oes llawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod cynnar gan fod defnydd ysgrifennu yn dirywio yng ngwres a lleithder a thrychfilod arfordir Dwyrain Affrica. Cerddi maethion yw trwch y cerddi cynharaf. Mae'r gerdd cynnar hwyaf oll yn farwnad i'r proffwyd Mohamed ac yn 45,000 llinell o hyd. Mae barddoni yn dal i ffynnu mewn papurau newydd ac ar y radio yn Cenia a Tansanïa. Un o’r beirdd Swahili modern enwocaf yw [[Robert Shaaban]] (1902-1962) a oedd hefyd yn awdur ysgrifau. Mae llenyddiaeth modern Swahili yn cynnwys storïau a nofelau a llyfrau chwedlau, gan gynnwys cyfieithiadau i'r Swahili o chwedlau brodorol Dwyrain Affrica'n gyffredinol.
 
Un o’r caneuon Swahili mwyaf adnabyddus tu allan i Ddwyrain Affrica yw ‘Malaika’ o Cenia, yn arbennig yn y fersiwn a recordiwyd gan [[Miriam Makeba]].