Y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B clean up, replaced: Yn yr 20fed ganrif → yn yr 20g, 10fed ganrif → 10g using AWB
Llinell 55:
== Hanes ==
{{Prif|Hanes y Deyrnas Unedig}}
Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10fed ganrif10g. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers [[Statud Rhuddlan]] ym [[1284]], yn rhan o [[Teyrnas Lloegr|Deyrnas Lloegr]] at bwrpasau deddfwriaethol trwy [[Deddf Uno 1536|Ddeddfau Uno 1536]]. Gyda [[Deddf Uno 1707]], cytunodd seneddau [[Lloegr]] a'r [[Yr Alban|Alban]] i uno eu teyrnasoedd fel [[Teyrnas Prydain Fawr]] (er iddynt rannu'r un brenin er [[1603]]). Ym [[Deddf Uno 1800|1800]], cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â [[Teyrnas Iwerddon|Theyrnas]] [[Iwerddon]] (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o [[1169]] hyd [[1603]]) i greu [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon]]. Wedi cread y [[Gweriniaeth Iwerddon|Dalaith Rydd Wyddelig]] ym [[1922]], allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym [[1927]].
 
Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y [[19g]] mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad [[democratiaeth]] [[senedd]]ol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd [[gwyddoniaeth]]. Yn anterth ei grym teyrnasai'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr [[20g]] gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'r [[Ewrop]] fodern a llewyrchus. Serch hynny, er bod y DU yn aelod o'r [[Undeb Ewropeaidd]], mai gwahaniaeth barn ynghylch cryfhau'r cysylltiad gyda'r gwrthwynebiad yn gryfach yn Lloegr. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae [[Tŷ'r Arglwyddi]] wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Ystyrir hefyd cynlluniau ar gyfer cynulliad annibynnol ar gyfer Lloegr. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Llinell 123:
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog [[Roc a rôl]] [[The Beatles]], y [[Rolling Stones]], [[Led Zeppelin]], [[The Who]], [[Pink Floyd]], [[Catatonia]], ac [[Oasis]].
 
Mae arlunwyr enwog o'r DU yn cynnwys pobl megis [[John Constable]], [[Joshua Reynolds]], [[William Blake]] a [[J.M.W. Turner]]. Ynyn yr 20fed ganrif20g, mae [[Francis Bacon]], [[David Hockney]], [[Bridget Riley]], [[Kyffin Williams]] a'r celfyddwyr pop [[Richard Hamilton]] a [[Peter Blake]] yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig [[Damien Hirst]] a [[Tracey Emin]].
 
Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatraidd, ac mae gan [[Llundain|Lundain]] lawer o theatrau, gan gynnwys y [[Theatr Genedlaethol Frenhinol]].