Robert John Rowlands (Meuryn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Bardd]], nofelydd, awdur plant a newyddiadurwr o Gymro oedd '''Robert John Rowlands''' ([[20 Mai]] [[1880]] - [[1967]]), a oedd yn adnabyddus fel awdur dan ei [[enw barddol]] '''Meuryn'''. Roedd yn arloeswr ym myd [[llenyddiaeth plant Gymraeg]].
 
[[Delwedd:Meuryn Barcud Olaf.JPG|200px|bawd|Clawr ''Y Barcud Olaf'', 1944., Ygyda darlun trawiadol gan Moss Williams.]]
Ganed R. J. Rowlands yn [[Abergwyngregin]], ger [[Bangor]], yn yr hen [[Sir Gaernarfon]] ([[Gwynedd]] heddiw) ar 20 Mai 1880 yn fab i William a Mary Rowlands. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Genedlaethol Aber. Dechreuodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn [[1901]] dan [[Isaac Foulkes]] ar staff ''[[Y Cymro]]'' (yn [[Lerpwl]] y pryd hynny) cyn dychwelyd i Gymru a chael swydd golygydd ar ''[[Yr Herald Cymraeg]]'' yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]] yn 1921. Arosodd yno am 33 o flynyddoedd hyd ei ymddeol yn [[1954]].