Rhethreg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn ar ehangu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Roedd rhethreg yn gyfrwng hollbwysig ym mywyd deallusol yr [[hen Roeg]]wyr a [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]], ac yn un o wyddorau'r [[trifiwm]] yn addysg Ewropeaidd [[yr Oesoedd Canol]]. Yr ysgrifenwyr enwocaf ar rethreg ac areithyddiaeth yn mysg yr hynafiaid oedd [[Aristoteles]], [[Cicero]], a [[Quintilian]], ac mewn amseroedd diweddar y Saeson Blair, Campbell, Whately, a Spalding, yr Almaenwyr Erneste Maass, Schott, Fichter, a Falknann, a'r Ffrancod Rollin, Gilbery, La Batteux, La Harpe, Marmontel, ac Andrieux.
 
== Y traddodiad llenyddol ==
=== Y Groegiaid ===
Oddi wrth yr [[Iliad]], yr ydym yn casglu fod y gelfyddyd o rethreg yn sefyll yn uchel yn syniadau y Groegiaid mewn cyfnod pur foreol. Yn ôl Quintilian, fodd bynnag, un o'r rhai cyntaf a'i diwylliodd fel celfyddyd oedd [[Empedocles]] a flodeuai rywbryd tua'r flwyddyn 450 CC. Yr oedd [[Corax]] a [[Tisias]], y rhai a ysgrifenasant gyntaf ar y gelfyddyd, medd efe, yn frodorion o [[Sisili]]. Yr oedd [[Gorgias]] hefyd yn cydoesi â hwy yn Sisili, ac yn cael ei fawrygu i'r fath raddau am ei huodledd fel y cyfodwyd cerflun euraidd ohonno yn [[Delphi]]. Disgybl enwocaf Gorgias oedd [[Isocrates]]; yr hwn, yn ôl disgrifiad Cicero, oedd prif ddysgawdwr y gelfyddyd areithyddol. Traethawd Aristoteles ar rethreg yw'r hynaf sydd gennym, a diau ei fod yn un o'r llyfrau gwerthfawrocaf a ddaeth i lawr i ni o'r henfyd. Llwyddodd [[Demosthenes]], yr hwn, dybygid, a gafodd fwynhau addysgiaeth Isocrates ac [[Isæus]], trwy ymroddiad a llafur dirfawr i orchfygu'r anhawsderau naturiol oedd ar ei ffordd i ddyfod yn areithiwr; a chyrhaeddodd raddau helaeth o ragoriaeth yn y gelfyddyd sydd wedi anfarwoli ei enw. Mynegir hefyd fod ei wrthwynebydd a'i gydymgeisydd mawr, [[Æschines]], ar ôl ei alltudiaeth, wedi bod yn addysgu eraill mewn rhethreg yn [[Rhodes]]. Nid oes un traethawd gan y meistriaid mawr hyn ar gael yn bresennol, ond y mae gennym, yn yr areithiau a draddodwyd ganddynt ag sydd wedi ei trosglwyddo i lawr i ni, gynlluniau areithyddol sydd yn werthfawrocach nag y gallasai un traethawd o'r eiddynt fod o gwbl. Cyfansoddodd [[Theodectes]] a [[Theophrastus]], disgyblion Aristoteles, draethodau ar rethreg; ac wedi hynny talodd yr athronyddion, yn enwedig y [[Stoiciaid]] a'r [[Epicwreaid]], sylw dyfael i reolau areithyddiaeth. Y mae ar gael yn awr draethawd rhagorol ar gyfansoddi, awduriaeth yr hwn a briodolir i [[Demetrius Phalereus]]; ac yr oedd [[Dionysius o Halicarnassus]] yn awdur traethawd ar rethreg, ynghyd â sylwadau beirniadol ar yr areithwyr Groegaidd, yr hwn sydd yn deilwng o'i ddarllen yn ofalus. Heblaw'r rhai a enwyd, sonir am areithwyr Groegaidd eraill gan Quintilian, ac yn eu plith [[Hermagoras]], [[Athenæus]], [[Apollonius Molon]] o Rhodes, yr hwn oedd un o athrawon Cicero, [[Arius Cæcilius]], [[Apollonius o Pergamus]], a [[Theodorus o Gadara.]] Ar ôl Quintilian, yr ysgrifenwyr enwocaf ar y gangen hon o gelfyddyd ymhlith yr hynafiaid oedd [[Hermogenes]] a [[Longinus]].
 
Parhaodd teyrnasiad huodledd yng Ngroeg yn llawer hwy nag y gwnaeth yn Rhufain. Dechreuodd ymhlith y Groegiaid gyda chyfodiad sefydliadau gwerinol, a pharhaodd i flodeuo hyd ddyddiau [[Alecsandr Fawr]], sef am gyfnod o gant a hanner o flynyddoedd; ond yn mysg y Rhufeiniaid, o'r bron nad ellir dywedyd i'r cyfnod ddechreu a diweddu gydag oes Cicero. Y mae'r gwahaniaeth yn cael ei briodoli i'r rhyddid a'r ffurfiau poblogaidd hynny o lywodraethau oedd yn cael eu mwynhau mewn llawer o'r taleithiau Groegaidd; ac y mae'n ymddangos fod y syniad hwn yn cael ei gadarnhau wrth ystyried fod y cyfnod mwyaf blodeuog ar hyawdledd a rhyddid tir Groeg bron yn cydoesi â'i gilydd. Peidiodd y naill pan y cafodd y llall ei ddinistrio. Gellir dywedyd fod oes y rheithegwyr yn Groeg wedi dilyn oes yr areithwyr; ac er nad oedd amgylchiadau yn ffafrïol mwyach i areithyddiaeth cyffelyb i'r eiddo Demosthenes ac Æachines, eto yr oedd athrawon yn dysgu rheitheg ymhlith y Groegiaid, yn diwyllio'r gelfyddyd fel disgyblaeth feddyliol, ac yn ei defnyddio fel math o arddangosiad chwarëyddol. Ymhlith y dosbarth hwn o areithwyr yr oedd [[Aristides]], ac eraill.
 
=== Y Rhufeiniaid ===
Yr oedd y gelfyddyd rethregol wedi cyrhaedd perffeithrwydd mawr yng ngwlad Groeg cyn iddi erioed dynnu sylw na chael nemawr o'i hastudio yn Rhufain. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 161 CC, pasiodd y senedd yno benderfyniad i yrru'r holl athronyddion a'r rhethregwyr allan o'r ddinas. Ond tua chwe blynedd yn ddiweddarach, daeth [[Carneades]], [[Critolaus]], a [[Diogenes]], yn genhadwyr o Athen i Rufain, a swynwyd pobl ieuanc Rhufain gymaint gan ei hyawdledd rhyfeddol fel y penderfynasant hwythau hefyd astudio'r gelfyddyd drostynt eu hunain. Dywed [[Seneca]] mai [[Lucius Plotinus]] o [[Gâl|Âl]] oedd y cyntaf a ddysgodd areithyddiaeth yn Rhufain. Y mae Quintilian yn enwi'r personau canlynol ym mygs yr ysgrifenwyr Rhufeinig ar rethreg: [[Marcus Cato]], Antony'r areithydd, Cornificius, Stertinius, a Gallio; ac yn oes Quintilian, yr oedd [[Virginius]], [[Pliny]], a Rutilius yn deilwng o'u chwanegu atynt.
 
Yr oedd Cicero hefyd, y mwyaf ardderchog o'r holl areithwyr Rhufeinig, yn un o'r hen ysgrifenwyr a gyfansoddodd yn fwyaf helaeth a rhagorol ar areithyddiaeth. Efe a ysgrifenodd oddeutu pump neu chwech o draethodau helaeth ar y testun hwn. Y mae'r ''Orator'' yn gynwysedig mewn tri llyfr; ac y mae wedi ei gyfansoddi mewn ffurf ymddiddanol. Y prif siaradwyr ydynt [[L. Crassus]] ac [[M. Antonius]]; ac y mae Cicero yn gosod ei opiniynau ei hun yn ngenau'r blaenaf. Y mae y llyfr cyntaf yn ymdrin â'r pwnc yn gyffredinol, ac yn cyfeirio yn neillduol at anhawsderau'r gelfyddyd o areithyddiaeth, a'r canghennau hynny oefrydiaeth â pha rai y dylai'r areithiwr penigamp fod yn gydnabyddus. Yn ôl Crassus, dylai cymhwysderau yr areithydd fod o'r radd uchaf; ac mai amcan y gelfyddyd ydyw, dysgu dyn i siarad neu i areithio yn y modd mwyaf galluog a dylanwadol; ac y dylai yr areithydd wneuthur ei hun yn gyfarwydd ym mhob dosbarth a changen o ddysgeidiaeth. Dywed nad ydyw huodledd yn gynwysedig mewn cadw yn fanwl at reolau celfyddydol: ond mai rheolau ydynt mewn gwirionedd wedi eu tynnu fel casgliadau wrth chwilio i ansoddau hyawdledd. Dylai'r ymarferiadau o ddarllen, traddodi, a gwellhau'r cof gael eu diwyllio yn ofalus gan yr areithydd; ac uwch law y cwbl dylai fod yn gyfarwydd hollol mewn materion a berthynant i'r gyfraith wladol. Dadleuai Antonius yn erbyn y gosodiadau hyn, ac eraill cyffelyb iddynt; a haerai nad ydyw adnabyddiaeth helaeth a chyfarwydd o'r gyfraith ddim yn angenrheidiol a hanfodol, a bod yr hwn a all siarad ar achosion cyffredin gyda pharodrwydd a nerth nes argyhoeddi'r gwrandawyr yn deilwng o'r alw yn areithydd. Ymdrina yr awdur yn yr ail lyfr â dyfais, trefn, a chof. Edrychir ar y cyntaf mewn golygiad triphlyg, yn ôl amcan y siaradwr ar y pryd; sef, addysgu, perswadio, neu ddifyru. O dan y pennawd o drefniad, ymdrinir â'r amrywiol rannau o araith; sef, yr arweiniad i mewn, yr adroddiad, y rhaniadau, y cadarnhâd, y gwrth-ddadleuon, a'r diweddglo. Yna ymdrina gwahanol fathau o areithyddiaeth; a diwedda'r llyfr gyda sylwadau ar y cof pan wedi ei gryfhau gan gelfyddyd. Yn y trydydd llyfr, cymerir i fyny y pwnc o hyawdledd. Y mae teithi geiriau, cyfansoddiad ac adddurniant brawddegau, a phethau eraill cysylltiedig ag iaith ac arddull,yn cael eu hegluro yn helaeth ynddo; a therfynir yr holl waith gydag ymdriniaeth a sylwadau ar agwedd ac ystum corff y llefarwr pan yn areithio.
 
Ysgrifennodd Quintilian, yr hwn oedd ei hunan yn rhethregwr o gymeriad uchel, ar ôl Cicero. O ganlyniad, cafodd y fantais o weld ac astudio ysgrifeniadau ysblenydd yr olaf; ac y mae ei ''Institutions of Oratory'', mewn deuddeg llyfr, yn cael ei ystyried y gyffredinol y gwaith mwyaf cyflawn sydd yn bod ar y pwnc. Y mae rhai areithiau sydd ar gael eto yn cael eu priodoli iddo ef; ond yn gymaint ag nad ydynt yn cytuno â'r rheolau y mae efe ei hun wedi eu gosod i lawr, nid ydyw eu dilysrwydd yn cael ei gydnabod yn gyffredinol.
 
=== Yr Oesoedd Canol ===
[[Sant Awstin o Hippo]], un o'r [[Tadau’r Eglwys|Tadau Eglwysig]] boreuaf, oedd un o'r cyntaf i ysgrifennu esiampl rethregol i'r Cristion. Y pedwerydd llyfr o'i destun ''De doctrina christiana'' yw'r ddamcaniaeth rethregol gyntaf at ddiben y gweinidog neu'r pregethwr Cristnogol. Nid yw'r gwaith yn ceisio osod rhethreg yn uwch na diwinyddiaeth neu resymeg, ond ymdrechodd i gyfuno dehongliad y Beibl â rhethreg.
 
Yn niwedd y 13g, blodeuodd dau o ddisgyblion yr athronydd Almaenig [[Albertus Magnus]] a gawsant ddylanwad sylweddol ar addysg y prifysgolion canoloesol: [[Tomos o Acwin]] a Phedr o Sbaen (yn hwyrach [[Pab Ioan XXI]]). Dysgawdwr pennaf y cwricwlwm diwinyddol oedd Tomos, a ysgrifennodd ar resymeg yr haniaeth a symbolaeth. Cafodd ei ysgrifau ddylanwad ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth fel ei gilydd, yn bennaf traddodiad yr [[ysgolaeth|ysgolwyr]]. Athro blaena'r [[celfyddydau breiniol]] oedd Pedr ac efe oedd yn gyfrifol am osod rhesymeg yn bwnc y mae'r myfyriwr rhethreg yn anelu at ei astudio. Ysgrifennodd ar resymeg y [[dilechdid]].
 
=== Y Dadeni ===
Yn oes [[y Dadeni Dysg]], llewyrchodd llên mewn ieithoedd y werin ac felly rhethreg. Y Ffrancwr [[Petrus Ramus]] oedd prif rethregwr y 16g.
 
== Gweler hefyd ==