R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Yn un ar ddeg fe aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg y Rhyl lle daeth dan ddylanwad [[T.I. Ellis]] ac [[S.M. Houghton]]. Dan Ellis daeth Tudur i ddechrau ymgyfarwyddo a'r [[Groeg]] ac Houghton y'i cyflwynodd i weithiau a syniadau'r [[Piwritaniaid]] am y tro cyntaf. Yn y cyfnod hwn y cyfarfu un o'i gyfeillion oes, y nofelydd [[Emyr Humphreys]]. Er y gwrthwynebiad gan eu cyd-ddisgyblion roedd Tudur a'i gyfaill Emyr wedi dod i arddel [[cenedlaetholdeb]] ac fe'i hysbrydolwyd yn fawr wrth ddilyn hynt a helynt llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Nid dim ond ei ddawn academaidd a'i Gymreictod oedd yn tyfu gwreiddiau yn y cyfnod hwn ond dwysaodd ei fywyd ysbrydol yn ogystal. Nododd iddo gael ei gyffwrdd yn arbennig gan bregeth o eiddo T. Glyn Thomas, Wrecsam ac hefyd gan bregeth o eiddo [[Martyn Lloyd-Jones]] a draddodwyd mewn ymgyrch efengylaidd ar bromenâd y Rhyl. Dyma'r noson lle 'taniodd y fatsien' fel y nododd mewn rhaglen ddogfen ar [[S4C]] yn y nawdegau.
 
Enillodd ysgoloriaeth i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] ond mynnodd ei dad ei fod yn parhau a'i astudiaethau yng Nghymru ac felly i lawr y lein i Fangor yr aeth. Cofrestrodd i ddilyn cyrsiau Cymraeg, [[Hanes]] ac [[Athroniaeth]] a flwyddyn yn ddiweddarach cofrestrodd yn ogystal fel myfyriwr yng Ngholeg [[Coleg Bala-Bangor|Ngholeg Bala-Bangor]] gan nodi ei ddymuniad am y tro cyntaf i fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Canolbwyntiodd ei egnïon ym Mala-Bangor lle astudiodd Hanes yr Eglwys dan [[John Morgan Jones]], diwinydd mwyaf rhyddfrydol ei gyfnod yng Nghymru; ac [[Athroniaeth Grefyddol]] dan [[J.E. Daniel]] oedd yn arddel uniongrededd Awstinaidd, ef oedd un o brif ladmeryddion Barthiaeth yng Nghymru. Er fod gan Tudur barch o'r radd mwyaf at Morgan Jones fel academydd, Daniel yn sicr oedd y ffigwr mwyaf dylanwadol oherwydd iddo asio uniongrededd gyda gwleidyddiaeth – apelia'i hyn yn fawr at Tudur. Nododd Tudur mae Daniel '...a barodd imi sylweddoli pa mor gyfoethog oedd y traddodiad efengylaidd Cymraeg...' Graddiodd yn [[1945]] gyda'r marciau uchaf erioed i'w dyfarnu gan gyfadran Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru.
 
Er gwaethaf gwrthwynebiad blaenorol ei dad iddo adael Cymru dyna y gwnaeth pan drodd yn 1945 tuag at [[Coleg Mansfield, Rhydychen]] i ddilyn cwrs D.Phil. Tarodd ati i lunio traethawd ar fywyd a gwaith y Piwritan Cymreig, [[Vavasor Powell]]. Er mae myfyriwr yng Ngholeg Mansfield ydoedd daeth ei diwtor o Goleg Eglwys Crist, dysgodd y Canon [[Claude Jenkins]] ddisgyblaeth i Tudur. Mynnodd Claude Jenkins fod Tudur yn cyflwyno ysgrif iddo yn wythnosol hyd yn oed os na theimla fod ganddo unrhyw beth newydd i'w rannu. Bu i'r llwyth gwaith drom yma ddwyn ffrwyth oblegid cwblhaodd Tudur ei draethawd ymhen dwy flynedd yn hytrach na'r dair arferol. Tra yn fyfyriwr yn Rhydychen cyfyd y cyfle iddo dreulio tymor yng nghyfadran Brotestannaidd [[Prifysgol Strasbourg]]. Erbyn 1948 daeth ei addysg ffurfiol academaidd i ben ac fe'i ordeiniwyd gan [[Nathaniel Micklem]], prifathro Coleg Mansfield, yn eglwys Seion, Baker Street, [[Aberystwyth]]. Y flwyddyn yna fe briododd ei wraig, Gwenllian Edwards, y cyfarfu gyntaf tra'n fyfyriwr ym Mangor.