Ni wyddus sut yn union osodiad yr adeilad, ond ceir hen ddogfennau sy'n nodi fod yma gasgliadau o sgroliau, colofnau Groegaidd, peripatos, ystafell fwyta, ystafell ddarllen, ystafell gyfarfod a neuaddau darlithio. Roedd strwythur yr adeilad, o ran ei bensaerniaeth, felly, yn rhagflaenu prifysgolion. Gwyddom hefyd fod yma ystafell bwrcasu ac ystafell i gatalogio'r gweithiau a bod yma silffoedd a oedd yn dal casgliadau o sgroliau brwynbapur a elwid yn ''βιβλιοθῆκαι'' ('bibliotecai'). YsgrifennwydUwch mewnben llythrennauy mawrsilffoedd, uwchysgrifennwyd ymewn silffoeddllythrennau y geiriau,mawr: 'Yn y fan hon ceir gwelladgwellâd yr enaid'.''<ref name="Alberto2008">Manguel, Alberto, The Library at Night. New Haven: Yale University Press, 2008, t. 26.</ref>