John Roberts (sant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 1 beit ,  16 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mynach Benedictaidd a merthyr [[Eglwys Gatholig|Catholig]] Cymreig oedd '''John Roberts''' ([[1576]] - [[10 Rhagfyr]] [[1610]]).
 
Ganed ef yn [[Trawsfynydd|Nhrawsfynydd]] yn fab i Robert, mab Ellis ap William ap Gruffydd, Rhiwgoch. Cafodd ei fagu fel Protestant, a'i addysgu yng [[Coleg Sant Ioan, Rhydychen|Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen]]. Wedi gadael Rhydychen heb gymeryd gradd yn 1598, bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod cyn mynd i deithio ar y Cyfandir.
 
Pam oedd yn ninas [[Paris]], troes yn Gatholig, ac aeth i astudio i Goleg Jesiwitaidd Sant Alban, [[Valladolid]]. Wedi bod yno am flwyddyn, ymunodd ag Urdd Sant Bened, a chymerodd yr enw Fra Juan de Mervinia. Oddi yno aeth i Abaty Sant Martin, [[Santiago de Compostela]], lle gwnaeth ei broffes fel mynach tua diwedd 1600. Bu'n astudio yn [[Salamanca]], a chafodd ei oedeinio yn offeiriad yn [[1602]]. Yn Ebrill [[1603]] aeth i [[Lloegr|Loegr]] fel cenhadwr. Daliwyd ef gan yr awdurdodau bedair gwaith, a'i ddedfrdu i alltudiaeth. . Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1602, ac ym mis Ebrill 1603 daeth i Loegr fel cenhadwr. Bu bedair gwaith yng ngafael yr awdurdodau, unwaith, ym mis Tachwedd, 1605, yn ystod helynt Brad y Powdr Gwn, ond ar bob achlysur, wedi tymor byr o garchar, dedfrydwyd ef i alltudiaeth. Yr oedd yn un o brif sefydlwyr [[Coleg Douai|Coleg Sant Gregory, Douai]] yn 1606-7, ac yn brior cyntaf y coleg. Dychwelodd i Loegr eto, a phan ddaliwyd ef am y pumed tro yn 1610, rhoddwyd ef ar brawf am deyrnfradwriaeth, a dienyddiwyd ef yn [[Tyburn, Llundain|Tyburn]], [[Llundain]] ar 10 Rhagfyr.
37,236

golygiad