Llyfrgell Alexandria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Cywiro camgymeriad teipio
Llinell 1:
[[Delwedd:ancientlibraryalex.jpg|bawd|290px|Llyfrgell Alexandria]]
'''Llyfrgell FrednhinolFrenhinol Alexandria''' neu '''Lyfrgell Hynafol Alexandria''' yn [[Alexandria]], [[yr Aifft]], oedd un o lyfrgelloedd mwyaf ei maint a mwyaf arwyddocaol yr hen fyd. Roedd wedi'i hadeiladu i'r Awenau, naw duwies y celfyddydau. Ffynnodd o dan nawdd y frenhinlin Ptolemaidd a daeth yn brif ganolfan i ddysgeidiaeth o'i hadeiladu yn y 3edd ganrif CC hyd nes i'r [[Rhufeiniaid]] goncro'r Aifft yn 30CC. Yn ogystal â'i chasgliadau o weithiau, roedd ganddi ddarlithfeydd, ystafelloedd cyfarfod a gerddi. Roedd y Llyfrgell yn rhan o sefydliad ymchwil mwy o'r enw [[Musaeum Alexandria]], ble astudiodd nifer o feddylwyr enwocaf yr hen fyd.
 
Cafodd y Llyfrgell ei chreu gan Ptolemy I Soter, cadfridog o [[Macedonia (rhanbarth)|Facedonia]] ac olynydd [[Alecsander Fawr]]. Cadwyd y rhan fwyaf o lyfrau fel sgroliau [[papyrus]]. Ni wyddir i sicrwydd faint o sgroliau oedd yn cael eu cadw yno ar un adeg, ond mae amcangyfrifon yn amrywio o 40,000 i 400,000 pan oedd y Llyfrgell ar ei hanterth.