Michael D. Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Michael Daniel Jones (1822-1898).jpg|bawd|dde|300px|Michael D. Jones]]
 
ArloeswrGweinidog a phrifatho Coleg y Bala, arloeswr a [[Cenedlaetholdeb Cymreig|chenedlaetholwr Cymreig]] o'r [[Y Bala|'r Bala]] oedd '''Michael Daniel Jones''' (cyn [[2 Mawrth]] [[1822]] – [[2 Rhagfyr]] [[1898]]). FeMae'n sefydloddcael Yei adnabod yn bennaf am ei gyfraniad i sefydlu'r [[Wladfa]] ym [[Patagonia|Mhatagonia]] ym 1865. Cymerodd ran mewn ymgyrchoedd gwleidyddol a chymdeithasol, ac roedd ymhlith y cyntaf yn y cyfnod modern i alw am hunanlywodraeth i Gymru.
 
==Bywgraffiad==
Llinell 25:
 
=== Ymreolaeth o'r pwysigrwydd mwyaf ===
Mae Cymru'n genedl. Treuliodd Jones ei oes i geisio dyfnhau; ymwybyddiaeth genedlaethol ymhlith y Cymry. Dyma'r hyn a ysgogai ei lafur mawr gyda'r Wladfa yn Ariannin. A dyma hefyd y gwahaniaeth mawr rhyngddo a radicaliaid o ysgol David Rees, Lanelli, S.R., a J.R. Daw'r pwynt yn amlwg yn oerfelgarwch Jones at Henry Richard. Yn wir, cyn gynhared â 1884 yr oedd yn dal mai dysgeidiaeth Richard oedd y dylai'r Cymry “daflu ymaith bob gwahaniaeth”, ac “ymdoddi i John Bull” am “nad oes gan y Cymro yn awr ddim achos cwyno.”'
 
Ei gyfraniad personol arbennig i'r drafodaeth wleidyddol yng Nghymru oedd mynnu rhoi ymreolaeth yn gyntaf. Yn wir, yr oedd ysgrifenwyr Y Celt yn brolio'r papur am roi lle amlwg i ymreolaeth. Fel y dywedodd Jones “Mae y Celt o'r dechrau wedi gosod lle amlwg i faner Ymreolaeth, ac yn neilltuol ymreolaeth i Gymru”. Y gwir yw, nad oes bron sôn o gwbl am y pwnc yng nghyfnod S.R. fel y golygydd oherwydd nid oedd y mater o ddiddordeb iddo ef. Ond pan ddaeth Pan Jones, awdur cofiant enwog Jones, yn olygydd ym 1881, esboniwyd polisi'r Celt mewn datganiad sy'n “llawenychu fod y Sais balch teyrngarol o'r diwedd wedi cydnabod yn gyhoeddus y priodoldeb o ganiatáu deddfwriaeth neilltuol i Gymry” ac ychwanega, “Nid oes ond un sefyllfa a all fod yn well na hyn, sef cael llywodraeth Gartrefol i Gymru – eu Deddfwrfa eu hunain i'r Cymry, yn yr Undeb Prydeinig.” '