Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Calan Mai"

Ychwanegwyd 22 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
→‎Traddodiadau Cymreig: dolen i garol haf
(manion, delwedd, categori)
(→‎Traddodiadau Cymreig: dolen i garol haf)
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.<ref>Trefor M. Owen. ''Welsh Folk Customs''. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.</ref>
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.<ref name="Welsh Folk Customs">''Welsh Folk Customs''</ref>
* Arferid canu carolau Mai, ('[[Carol haf|carolau haf]]' neu 'garolau dan y pared') neu garolau haf:sef caneuon eithaf erotig.<ref name="Welsh Folk Customs"/>
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a [[gwaseila]].<ref name="Welsh Folk Customs"/>