Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Casgliadau'r Llyfrgell: Ychwanegu a chyfnewid delweddau
Llinell 63:
 
==Casgliadau'r Llyfrgell==
[[Delwedd:Blacksmith at Llwyn-mawr (5370510794).jpg|bawd|Enghraifft o gasgliad ffotograffau Geoff Charles, un o gasgliadau ffotograffig mwyaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]
 
Mae casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros 6.5 miliwn o gyfrolau printiedig, yn cynnwys y llyfr cyntaf a argraffwyd yn yr iaith Gymraeg, Yny lhyvyr hwnn (1546).Yn ogystal â chasgliadau llyfrau printiedig, mae tua 25,000 o lawysgrifau ymhlith ei daliadau. Mae casgliadau archifol y Llyfrgell yn cynnwys yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cadw mapiau, ffotograffau, darluniau, tirluniau a phrintiau topograffydol, cylchgronau a phapurau newydd. Yn 2010, roedd casgliad Llawysgrifau Peniarth a The Life Story of David Lloyd George ymysg y deg arysgrif cyntaf ar Restr Cof y Byd y DG, cofnod UNESCO o dreftadaeth ddogfennol o arwyddocâd diwylliannol.
 
Llinell 72:
==Llawysgrifau==
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw nifer o lawysgrifau unigryw a phwysig, yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin (y llawysgrif gynharaf sy'n gyfan gwbl yn y Gymraeg), Llyfr Taliesin, Llawysgrif Hendregadredd, a gwaith Geoffrey Chaucer. Mae tua tri chant o lawysgrifau canoloesol yng nghasgliadau'r Llyfrgell: tua chant ohonynt yn y Gymraeg. Mae'r casgliad llawysgrifau yn gyfuniad o gasgliadau a ddaeth i'r Llyfrgell yn ei dyddiau cynnar, gan gynnwys llawysgrifau Hengwrt-Peniarth, Mostyn, Llanstephan, Panton, Cwrtmawr, Wrecsam ac Aberdar. Catalogwyd y llawysgrifau Cymraeg yn y casgliadau hyn gan Dr J. Gwenogvryn Evans yn ei adroddiadau ar lawysgrifau yn yr iaith Gymraeg i'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol.
[[Delwedd:Hengwrt Chaucer (f.2.r) title page.jpg|canol|bawd|Llawysgrif Hengwrt Chaucer o Gasgliad Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]
 
==Mynediad Agored a chydweithio â Wikimedia==
[[Delwedd:Llyfrgell Genedlaethol National Library of Wales 04.JPG|bawd|chwith|Dr Dafydd Tudur yn derbyn Tlws GLAM y Flwyddyn, Wicimedia DU, 2013 ar ran y Llyfrgell]]
Yn Ebrill 2012, gwnaed penderfyniad polisi blaenllaw iawn: nad oedd y Llyfrgell yn hawlio perchnogaeth yr hawlfraint mewn atgynhyrchiadau digidol. Golygai hyn fod yr hawliau sydd ynghlwm wrth gweithiau'n adlewyrchu statws hawlfraint y gwaith gwreiddiol (h.y. fod y gweithiau gwreiddiol sydd yn y parth cyhoeddus (e.e. lluniau ar Flickr) i barhau yn y parth cyhoeddus yn eu ffurf digidol. Mae'r llyfrgell wedi cymhwyso'r polisi hwn i brosiectau ers hynny gan gynnwys '[[DIGIDO]]', [[Prosiect Papurau Newydd Cymru Arlein]]<ref name="Papurau Newydd Cymru Arlein">[http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru]</ref> a 'Cymru 1914'. Mae'r Llyfrgell hefyd yn parhau i ddiweddaru gwybodaeth am hawliau prosiectau a gwbwlhawyd cyn 2012, sy'n waith aruthrol, oherwydd y cyfoeth o weithiau sydd yn y Llyfrgell.
[[Delwedd:Jason Evans.jpg|bawd|Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Gebedlaethol]]
 
Yn Chwefror 2013 [[:commons:Category:Images from the collection of the National Library of Wales|treialwyd 50 o ddelweddau]] o [[Mynwy|Fynwy]], sydd allan o hawlfraint. Y llun cyntaf a uwchlwythwyd oedd: [[:commons:File:The Vale of Tintern, from the Devil's Pulpit.jpg|Abaty Tintern o Bulpud y Diafol]]. Crewyd [[:commons:Template:NLW collection|templad i "ddal" y lluniau]] sy'n cyfieithu'n otomatig i nifer o ieithoedd.
 
Llinell 82:
 
Yn Ionawr 2015, penododd y Llyfrgell Wicipediwr Preswyl mewn partneriaeth â Wikimedia UK gyda'r nod o feithrin perthynas gynaliadwy rhwng y sefydliad a phrosiectau Wiki. Dyma'r cyfnod preswyl hiraf yn hanes y swyddogaeth Wicipediwr Preswyl, sy'n arwydd o'i lwyddiant yn y Llyfrgell Genedlaethol.
 
<gallery>
File:Jason Evans WiR at Llyfrgell Genedlaethol National Library of Wales 02.JPG|Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol; Chwefror 2015
 
</gallery>
 
==Cyfeiriadau==