Theophilus Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 5:
 
==''Drych y Prif Oesoedd''==
Yn y gyfrol ''Drych y Prif Oesoedd'' (1716 a 1740), mae Theophilus yn rhoi hanes y [[Brythoniaid]] a'r [[Cymry]] hyd cwymp y [[Oes y Tywysogion|tywysogion]] gan dynnu ar sawl ffynhonnell hynafiaethol, gan gynnwys [[Sieffre o Fynwy]].
 
Yn 1703, cyhoeddodd y Llydäwr [[Paul Yves Pezron]] ei lyfr enwog ''Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois''. Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel ''Antiquities of Nations'' a argraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith [[Gomer fab Jaffeth]] ac roedd y [[Cymry]] a'r [[Llydawyr]] yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y [[Titaniaid]].<ref>Glenda Carr, ''William Owen Pughe'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1983), tudalennau 77, 183.</ref> Ar sail gwaith Pezron mae awdur y ''Drych'' yn cyhoeddi'n groyw, ar ôl adrodd hanes cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp [[Tŵr Babel]],