Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
addysg
Llinell 4:
Ganwyd Daniel Ddu ym ffermdy Maesmynach, ar lan [[afon Granell]], [[plwyf]] [[Llanfihangel Ystrad]], yn ne Ceredigion, rywbryd ym 1792, yn fab i David a Sarah Evans. Symudodd y teulu i fyw mewn ffermdy yr ochr arall i afon Granell ym mhlwyf [[Llanwnen]] lle treuliodd wedill ei oes. Yn hen lanc o offeiriad, un o'i bleserau mwyaf oedd pysgota yn afonydd [[afon Aeron|Aeron]] a [[Afon Teifi|Theifi]].
 
Cafodd Daniel Ddu ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanbedr dan Elezer Williams, mab [[Peter Williams]]. Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu, Rhydychen]]. Er iddo ddod yn offeiriad ymddengys nad ymgymerodd â gofal unrhyw blwyf. UnoUn o'i gyfeillion gorau oedd y llenor [[Gwallter Mechain]].
 
Enillodd sawl tlws [[eisteddfod]]ol, e.e. y Gadair yn Eisteddfod Dyfed 1823. Cyhoeddwyd ei waith yn y gyfrol ''Gwinllan y Bardd'' (1831) ac chafwyd dau argraffiad arall ohoni yn ddiweddarach gyda rhagor o gerddi (yr olaf ym 1906).