Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomas Clarke"

Ychwanegwyd 52 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
cat
(cat)
Roedd '''Thomas James Clarke''' ([[Gwyddeleg]]: Tomás Ó Cléirigh; [[11 Mawrth]] [[1857]] – [[3 Mai]] [[1916]]) yn genedlaetholwr [[Gwyddelod|Gwyddelig]] ac yn un o brif ysgogwyr [[Gwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]].
 
Ganed Clarke ar [[Ynys Wyth]] yn Lloegr, lle roedd ei dad yn rhingyll yn y Fyddin Brydeinig. Symudodd y teulu i [[Dungannon]], [[Swydd Tyrone]], [[Iwerddon]] yn fuan wedyn. Yn 18 ymunodd a'r ''Irish Republican Brotherhood'' (IRB) ac yn [[1883]] gyrrwyd ef i [[Llundain|Lundain]] gyda'r bwriad o beri ffrwydrad ar [[Pont Llundain|Bont Llundain]]. Cafodd ei ddal, a threuliodd y 15 mlynedd nesaf yng [[Carchar Pentonville|Ngharchar Pentonville]]. Rhyddhawyd ef yn [[1898]], a phriododd Kathleen Daly, Ymfudasant i'r [[Unol Daleithiau]], lle bu Clarke yn gweithio i'r [[Clan na Gael]] dan [[John Devoy]]. Dychwelodd i Iwerddon yn 1907 ac agorodd siop dybaco yn [[Dulyn|Nulyn]]. Daeth yn ddylanwadol iawn yn yr IRB.
 
 
[[Categori:Genedigaethau 1857Gwyddelod|Clarke, Thomas]]
[[Category:Marwolaethau 1916|Clarke, Thomas]]
[[Categori:Hanes Iwerddon]]
[[Categori:Cenedlaetholdeb Gwyddelig]]
[[Categori:Genedigaethau 1857|Clarke, Thomas]]
[[Category:Marwolaethau 1916|Clarke, Thomas]]
 
[[br:Thomas Clarke]]