John Williams (casglwr llawysgrifau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Llyfryddiaeth: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
gwybodaeth a y cyhuddiad mae Syr John oedd Jack the Ripper
Llinell 8:
 
Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn [[Aberystwyth]], ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arhosodd trysorau fel ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' a ''[[Llyfr Taliesin]]'' a nifer o lawysgrifau hynafol eraill yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl.
 
==Mewn diwylliant poblogaidd==
 
Yn y ffilm [[Y Llyfrgell (ffilm)|Y Llyfrgell]] mae’r cymeriad Dan yn honni mae Syr John oedd y llofrudd toreithiog [[Jack the Ripper]]. Daw’r cyhuddiad o lyfr a gyhoeddwyd yn 2005, ''Uncle Jack''<ref>Williams, Tony; Price, Humphrey (2005). ''Uncle Jack''. London: Orion. ISBN 978-0-7528-6708-3</ref>, a ysgrifennwyd gan un o ddisgynyddion honedig y llawfeddyg, Tony (Michael Anthony) Williams, a’i gyd awdur Humphrey Price. Mae'r awduron yn honni bod y merched a chafodd eu llofruddio yn adnabod y meddyg yn bersonol a'i bod wedi eu lladd a’u llurgunio mewn ymgais i ymchwilio i achos anffrwythlondeb ei wraig. Mae'r llyfr hefyd yn honni bod cyllell llawfeddygol a oedd yn eiddo i Syr John Williams (sydd i’w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol), oedd arf y llofruddiaethau<ref>[https://www.theguardian.com/uk/2005/apr/24/ukcrime.tonythompson1 Knife clue could solve mystery of the Ripper] adalwyd 1 Mai 2017</ref>. Mae amheuon difrifol wedi eu codi gan eraill am gymhwysedd a chymhelliant yr awduron<ref>[http://www.casebook.org/suspects/dr-john-williams.html Ripper Casebook Dr John Williams] adalwyd 1 Mai 2017</ref><ref>Pegg, Jennifer (Ionawr 2006). ""Shocked and Dismayed" – An Update on the Uncle Jack Controversy". Ripper Notes. Inklings Press. 25: 54–61. ISBN 0-9759129-6-8</ref>.
 
 
==Llyfryddiaeth==
*Ruth Evans, ''Syr John Williams'' (''Cyfres Gŵyl Ddewi'', Caerdydd, 1952)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Authority control}}