Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr''' rhwng [[1642]] a [[1646]], rhwng plaid y brenin [[Siarl I o Loegr a'r Alban]] a phlaid y Senedd. Roedd yn rhan o gyfres o dri rhyfel o fewn [[Rhyfel Cartref Lloegr]], yntau yn rhan o [[Rhyfeloedd y Tair Teyrnas|Ryfeloedd y Tair Teyrnas]], yn cynnwys [[Rhyfel Cartref yr Alban]] (1644–1645) a [[Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon]] (1642–9).
 
Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Ymladdwyd y rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd, a dechreuodd pan gododd Siarl I ei faner yn [[Nottingham]] ar [[22 Awst]] [[1642]]. Y prif frwydrau oedd [[Brwydr Edgehill]], [[Brwydr Marston Moor]] a [[Brwydr Naseby]]. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan [[Oliver Cromwell]] erbyn diwedd y rhyfel.
Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffôdd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, [[Swydd Nottingham]] ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben.