Urien Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Yn ôl yr achau a geir yn [[llawysgrif]] Harley 3859, roedd Urien yn fab [[Cynfarch ap Meirchiawn|Cynfarch]] ap Meirchiawn ap Gwrwst ap [[Coel Hen]]. Mae [[Ifor Williams]] yn dangos mai ''Urbgen'', a droes yn *''Urfgen'' ac yno ''Urien'', oedd y ffurf gynharaf ar ei enw. Mae [[Rachel Bromwich]] yn cynnig mai'r enw [[Brythoneg]] *''Orbogenos'' ('Un o enedigaeth freintiedig') yw tarddiad yr enw.
 
Yng Nghanu Taliesin cyferchir Urien fel ''Glyw Reget'' (Arglwydd Rheged). Roedd [[Catraeth]] yn ei feddiant y pryd hynny, cyn iddi syrthio i wŷr [[Northumbria]] (ceir yr hanes yn ''[[Y Gododdin]]'', cerdd enwog [[Aneirin]]); 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth) yw Urien yn ôl Taliesin. Molir Urien am ei ddewrder mewn brwydr yng [[Gwên Ystrad|Ngwên Ystrad]] ([[Dyffryn Eden]] efallai) yn erbyn y [[Pictiaid]] (neu'r [[Saeson]]). Sonnir am gyrch yn erbyn [[Manaw Gododdin]] (i'w adennill efallai) a buddugoliaeth yn erbyn [[Fflamddwyn]] ym mwrydr [[Argoed Llwyfain]] ('Gweith Argoet Llwyfein'). Ymddengys fod Taliesin wedi canu i'r brenin sawl gwaith dros y blynyddoedd oherwydd mewn rhai cerddi mae Urien ei hun ar flaen y gad ond ar y llaw arall mewn dwy gerdd, diweddarach mae'n debyg, mae ei fab Owain yn arwain ac Urien yn y cefndir.
 
Mae'r portread o Urien fel brenin arwrol sy'n rhadlon i'w ddeiliad ond yn ffyrnig mewn brwydr yn erbyn y gelyn yn gosod y seiliau i'r portread confensiynol o frenhinoedd yn y traddodiad barddol am ganrifoedd.