Llawysgrifau Llansteffan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Casgliad o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymreig]] yw '''Llawysgrifau Llansteffan''' (neu '''Llanstephan'''). Maent yn cynnwys testunau nifer o gerddi a thestunau rhyddiaith [[Cymraeg Canol]], yn arbennig o gyfnod yr [[Oesoedd Canol Diweddar]] a'r [[Dadeni Dysg]].
Ffurfiwyd cnewyllyn y casgliad gan y copïwr llawysgrifau [[Samuel Williams]] (c.1660-1722), offeiriad [[Llandyfrïog]] a [[Llangynllo]] ([[Ceredigion]]) a'i fab, yr hynafiaethydd [[Moses Williams]] (1685-1742). Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llawysgrifau o gasgliadau [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]], [[Lewis Morris]], Edward Breese ac [[E. G. B. Phillimore]]. Cafodd y casgliad ei gyflwyno i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] gan Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]] yn [[1909]]; fe'u gelwir yn Llawysgrifau
Ymhlith y testunau a geir yn y casgliad pwysig hwn ceir cerddi gan rhai o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]], fel [[Dafydd ap Gwilym]], [[Guto'r Glyn]], [[Lewys Glyn Cothi]], [[Tudur Aled]], [[Gutun Owain]], [[Siôn Brwynog]], [[Morgan Elfael]], a [[Llywelyn Siôn]], ynghŷd â gwaith o law [[Siôn Dafydd Rhys]]. Yn llawysgrif ''Llanstephan 4'' ceir y testun cynharaf o ''[[Chwedlau Odo]]'' (tua dechrau'r [[15fed ganrif]]. Y llawysgrif bwysicaf yw ''[[Llyfr Coch Talgarth]]'' (tua [[1400]]).
|