Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llyfr Aneirin"

Ychwanegwyd 501 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
chwaneg
(typos)
(chwaneg)
Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd [[Dafydd Nanmor]] (fl. 1450-80) o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] a [[Gwilym Tew]] (fl. 1460-80) o [[Morgannwg|Forgannwg]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell [[Hengwrt]], [[Meirionnydd]], lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] yn yr [[17eg ganrif]]. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i [[Aberdâr]] ac yna i feddiant [[Theophilus Jones]] ac wedyn [[Carnhuanawc]]. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i [[Llyfrgell Dinas Caerdydd|Lyfrgell Dinas Caerdydd]] lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).
 
Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r ''Gododdin'', ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y ''Gododdin'' ei hun, yn cynnwys yr hwiangerdd unigryw ''Pais Dinogad'', marwnad i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron, penillion gwirebol ''Gorchan Addefon'' a ''Gorchan Maeldderw'' a briodolir i'r bardd [[Taliesin]] a ganai yn yr [[Hen Ogledd]] yn yr un ganrif ag Aneirin.
 
==Cyfeiriadau==
==Llyfryddiaeth==
*Daniel Huws, ''Llyfrau Cymraeg 1250-1400'' (Aberystwyth, 1992). Darlith Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]].
*Morfydd E. Owen, 'Hwn yw e Gododin. Aneirin ae cant.', yn Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), ''Astudiaethau ar yr Hengerdd'' (Caerdydd, 1978)
*[[Ifor Williams]], ''Canu Aneirin'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1938; ail arg. 1961)