Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Teyrnas Frythonig yn yr Hen Ogledd oedd '''Elmet''' (Cymraeg diweddar: "Elfed"). Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yn ngogledd Lloegr, yn yr ardal o ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:32, 27 Rhagfyr 2007

Teyrnas Frythonig yn yr Hen Ogledd oedd Elmet (Cymraeg diweddar: "Elfed"). Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yn ngogledd Lloegr, yn yr ardal o gwmpas dinas Leeds. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.

Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr [[Historia Britonnum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Certic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").

Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".

Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yng Ngwynedd, "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet". Cadwyd cerdd gan Taliesin i Gwallog ap Llaennog, oedd yn frenin Elfed tua diwedd y 6ed ganrif.


Brenhinoedd Elmet

Llyfryddiaeth

  • David Rollason, Northumbria, 500-1100, Cambridge University Press (2003)
  • Christopher A Snyder, The Britons, Blackwell Publishing (2003)