Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Elmet"

Ychwanegwyd 2 feit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: Teyrnas Frythonig yn yr Hen Ogledd oedd '''Elmet''' (Cymraeg diweddar: "Elfed"). Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yn ngogledd Lloegr, yn yr ardal o ...)
 
B
Teyrnas Frythonig yn [[yr Hen Ogledd]] oedd '''Elmet''' (Cymraeg diweddar: "Elfed"). Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn [[Swydd Efrog]] yn ngogledd [[Lloegr]], yn yr ardal o gwmpas dinas [[Leeds]]. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod [[Afon Sheaf]] yn ffin iddi yn y de, ac [[Afon Wharfe]] yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar [[Deira]] ac yn y de ar [[Mercia]].
 
Ymosodwyd ar Elmet gan [[Northumbria]] yn hydref [[616]] neu [[626]]. yn yr ''[[Historia Britonnum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir sôn am [[Edwin, brenin Northumbria]] ''"occupauit Elmet, et expulit Certic, regem illius regionis"'' ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
 
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis [[Barwick-in-Elmet]] a [[Sherburn-in-Elmet]]. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".
37,236

golygiad