Dál Riata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfydwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y ''Scotti'' yn Lladin.
 
Cyrhaeddodd y deyrnas ei huchafbwynt dan [[Áedán mac Gabráin]], ei brenin rhwng [[574]] a [[608]], ond gorchfygwyd ef ym [[Brwydr Degsastan|Mrwydr Degsastan]] yn [[603]] gan [[Æthelfrith, brenin Northumbria]]. Gorchfygwyd [[Dyfnwal Frych]] (Domnall Brecc), a ddaeth yn frenin tua [[629]], mewn brwydrau yn Iwerddon, cyn ei orchfygu a'i ladd gan fyddin teyrnas Frythonig [[Ystrad Clud]] yn [[642]]. Daeth y deyrnas dan reolaeth [[Northumbria]], yna dan reolaeth y [[Pictiaid]].
 
Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan [[Áed Find]] (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan [[Cináed mac Ailpín]] (Kenneth mac Alpin, 800-858).