Cináed mac Ailpín: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Brenin y [[Pictiaid]] oedd Kenneth, am ymddengys iddo gyfuno teyrnas y Pictiaid a theyrnas [[Dál Riata]]. Roedd brenhinllin yr Alban yn hawlio bod yn ddisgynyddion iddo. Mae ansicrwydd beth yn union oedd ei gysylltiad ef a theyrnas y Pictiaid a Dál Riata, ac a oedd yr uniad yn golygu fod un deyrnas wedi gorchfygu'r llall.
 
Ystyrir fod teyrnasiad Kenneth fel brenin y Pictiaid wedi dechrau yn [[843]], ond mae'n debyg ei bod yn [[848]] cyn iddo orchfygu'r olaf o hawlwyr eraill yr orsedd. Dywed rhai ffynonellau ei fod yn frenin Dál Riata cyn dod yn frenin y Pictiaid, ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw o gancr yn [[858]], efallai yn [[Scone]], a chladdwyd ef ar ynys [[Iona]]. Er bod traddodiad diweddarach yn ei ddisgrifio fel brenin cyntaf [[Teyrnas Alba]], fel "Brenin y Pictiaid]] y mae'r Brutiau yn cofnodi ei farwolaeth. Gadawodd o leiaf ddau fab, [[Cystennin I, brenin yr Alban]] ac Áed, ac o leiaf ddwy ferch; priododd un ohonynt [[Rhun, brenin Ystrad Clud|Rhun]], brenin [[Ystrad Clud]].