Ystrad Clud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
arall-eirio fymryn
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Teyrnas Frythonig yn [[yr Hen Ogledd]], yn yr ardal sy'n awr yn [[Strathclyde]] yng ngorllewin [[yr Alban]] oedd '''Ystrad Clud''' neu '''Strat Clut''' ([[Gaeleg]]: ''Srath Chluaidh''). Gelwid y deyrnas hefyd yn '''Alt Clut''' (Cymraeg Diweddar "Allt Clud"), o'r enw am yr hyn a elwir heddiw'n [[Dumbarton|Graig Dumbarton]], lle roedd prifddinas y deyrnas. Efallai fod y deyrnas wedi datblygu o diriogaeth llwyth y [[Damnonii]], a grybwyllir gan [[Ptolemi]] yn y cyfnod Rhufeinig.
 
Nid oes sicrwydd ymhle'r oedd ffiniau'r deyrnas, ond mae'n debyg ei bod yn ymestyn o ardal [[Loch Lomond]], ar hyd dyffryn [[Afon Clyde]] ac i'r de at ardal [[Aeron]] (o gwmpas [[Ayr]] heddiw). Cofnodir i "Coroticus" ([[Ceredig, brenin Alt Clut]]) dderbyn llythyr gan [[Sant Padrig]]. Disgynnydd iddo ef oedd [[Rhydderch Hael]], oedd yn cydoesi ag [[Urien Rheged]]. Yn [[642]], cofnodir i Frythoniaid Alt Clut dan [[Owain I, brenin Alt Clut|Owain I]], mab [[Beli I, brenin Alt Clut|Beli I]] orchfygu byddin [[Dál Riata]] a lladd eu brenin, [[Dyfnwal Frych]] (Domnall Brecc). Ymgorfforwyd pennill yn dathlu'r fuddugoliaeth yma yn nhestun ''[[Y Gododdin]]''.
 
Cofnodir anrheithio Allt Clud gan [[Llychlynwyr|Lychlynwyr]] [[Dulyn]] yn [[870]]. Yn ddiweddarach meddiannwyd y diriogaeth gan [[Teyrnas Alba|Deyrnas Alba]] a daeth yn rhan o Deyrnas yr Alban. Efallai i annibyniaeth Ystrad Clud ddod i ben ar farwolaeth [[Owain II, brenin Ystrad Clud|Owain II]] (Owain Foel) yn [[1018]].