Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 1,273 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
Ar [[19 Mawrth]] [[1286]] lladdwyd y brenin [[Alexander III, brenin yr Alban|Alexander III]] mewn damwain, heb adael aer amlwg i'r goron. Gan fod nifer o hawlwyr, gofynnwyd i [[Edward I, brenin Lloegr]] ddewis rhyngddynt, ond manteisiodd ef ar y cyfle i hwalio ei orcuchafiaeth ar yr Alban. Enwodd ef [[John Balliol]] yn frenin, ond pan wrthryfel Balliol yn erbyn Edward, ymosododd Edward arno a'i ddiorseddu. Am gyfnod, roedd yr Alban bron i gyd dan reolaeth Edward. Gwrthwynebwyd ef gan [[William Wallace]], a enillodd [[Brwydr Pont Stirling|Frwydr Pont Stirling]] yn ei erbyn, ond yna a orchfygwyd ym [[Brwydr Falkirk|Mrwydr Falkirk]]. Bradychwyd Wallace a'i ddwyn i Lundain i'w ddienyddio yn [[1305]], ac unwaith eto ymddangosai rheolaeth Edward ar yr Alban yn ddiogel.
 
Ar [[10 Chwefror]], [[1306]], trefnwyd cyfarfod rhwng [[Robert Bruce]] a [[John Comyn]], y ddau yn gallu hawlio coron yr Alban, yn [[Dumfries]]. Aeth yn gweryl, a lladdwyd Comyn ger allor yr eglwys. Gan sylweddoli fod yn rhaid iddo hawlio'r goron neu ffoi, cyhoeddodd Bruce ei hun yn frenin yr Alban, fel Robert I. Ym mis Mehefin 1306 gorchfygwyd Robert ym mrwydr Methven ac yna bu bron iddo gael ei ddal yn Strathfillan. Yn 1307 daliodd Edward wraig Robert, Elizabeth, a'i ferch, Marjorie. Bu farw Edward I ar [[7 Gorffennaf]], a dilynwyd ef gan ei fab, [[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]], oedd yn llawer llai galluog fel milwr.
 
Bu Robert a'i ddilynwyr yn ymladd rhyfel taro a rhedeg am rai blynyddoedd. Daliwyd ei frodyr Thomas ac Alexander, a'u dienyddio. Yn raddol enillodd dir, fodd bynnag, gan orchfygu y Saeson yn Glen Trool, gorchfygu [[Aymer de Valence, 2il Iarll Penfro]] ym mrwydr Loudoun Hill, ac yna gorchfygu John Comyn, 3ydd Iarll Buchan ym mrwydr Inverurie ym mis Mai 1308. Yn [[1314]] enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros Edward II ym [[Brwydr Bannockburn|Mrwydr Bannockburn]].
 
Parhaodd yr ymladd am flynyddoedd eto, gyda Edward, brawd Robert, yn ymgyrchu yn [[Iwerddon]].
Ym Mai [[1328]] arwyddodd [[Edward III, brenin Lloegr]] Gytuneb Caeredin-Northampton, oedd yn cydnabod yr Alban fel gwlad annibynnol a Robert fel ei brenin.
 
 
* [[Brenhinoedd a breninesau'r Alban]]
* [[Yr Hen Ogledd]]
* [[Gododdin (teyrnas)|Gododdin]]
* [[Macbeth, brenin yr Alban]]
* [[Pictiaid]]
* [[William Wallace]]
* [[Brwydr Bannockburn]]
* [[Charles Edward Stuart]]
 
37,236

golygiad