Hanes yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23:
 
Ar [[24 Mawrth]] [[1603]] bu [[Elisabeth I, brenhines Lloegr]] farw yn ddi-blant. Etifedd cyfreithiol coron Lloegr oedd [[Iago, Brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)|Iago VI, brenin yr Alban]], a daeth ef yn Iago I, brenin Lloegr. Roedd yn ddwy deyrnas yn parhau ar wahan, gyda senedd ymhob un, ond symudodd Iago i Lundain a Lloegr oedd yn cael fwyaf o sylw ganddo ef a'i fab, [[Siarl I o Loegr a'r Alban|Siarl I]].
 
Ymladdwyd [[Rhyfel Catref yr Alban]] yn [[1644]] a [[1645]] rhwng y [[Brenhinwyr]], cefnogwyr y brenin [[Siarl I o Loegr a'r Alban|Siarl I]] a'r [[Cyfamodwyr]], oedd wedi bod yn rheoli'r Alban ers [[1639]]. Roedd y rhyfel yma yn rhan o gyfres [[Rhyfeloedd y Tair Teyrnas]].
 
Prif gadfridog y Brenhinwyr yn yr Alban oedd [[James Graham, Ardalydd 1af Montrose]]. Cododd fyddin, yn bennaf yn [[Ucheldiroedd yr Alban]], a chyda chymorth milwyr o [[Iwerddon]] enillodd gyfres o fuddugoliaethau dros fyddinoedd llawer mwy niferus y Cyfamodwyr. Yn y diwedd, bu'r Cyfamodwyr yn fuddugol, a gorfodwyd Montroese i adael yr Alban.
 
Ym mis Mawrth [[1650]], dychwelodd Montrose i ymladd dros y brenin [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl II]], ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale, a dienyddiwyd ef yng [[Caeredin|Nghaeredin]].
 
Unwyd yr Alban a Lloegr yn gyfreithiol gan [[Deddfau Uno 1707|Ddeddfau Uno 1707]], dau [[Mesur Seneddol|Fesur Seneddol]] a basiwyd yn [[1706]] gan [[Senedd Lloegr]] ac yn [[1707]] gan [[Senedd yr Alban]]. Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahan oedd yn rhannu yr un brenin, i fod yn un wladwriaeth. Daeth hyn i rym ar [[1 Mai]] [[1707]]. O hyn ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn [[Llundain]].