Derwydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 1:
{{Mytholeg Geltaidd}}
 
Roedd '''derwydd''' yn aelod o ddosbarth o offeiriaid a gwybodusion ymhith [[y Celtiaid]] yn y cyfnod cyn [[Cristionogaeth]]. Ceir y cyfeiriadau atynt yn bennaf ym Mhrydain a [[Gâl]]. Y grêd gyffredinol oedd fod y gair yn dod o'r gair "derwen", ond credir yn awr nad oes cysylltiad â'r goeden; daw o'r [[Brythoneg|Frythoneg]] ''*do - are -uid''.
 
==Tystiolaeth==
Ceir y cyfeiriad cyntaf at y ''Druridae'' gan awduron Groegaidd megis [[Soton o Alexandria]], a ddyfynir gan [[Diogenes Laertius]] yn yr ail ganrif CC.. Cyfeiria nifer o awduron Rhufeinig at ''druides'', yn arbennig gan [[Iŵl Cesar]] yn ei lyfr ''[[Commentarii de Bello Gallico]]'' . Dywed fod llawer o ddarpar-dderwyddon o [[Gâl]] yn cael eu gyrru i Brydain i'w haddysgu. Dywed awduron eraill megis [[Diodorus Siculus]] a [[Strabo]] fod y dosbarth offeiriadol Celtaidd yn cynnwys Derwyddon, [[bardd|beirdd]] a [[Vates]] (Ofyddion). Dywed Diodorus Siculus a rhai awduron eraill eu bod yn aberthu bodau dynol i'r duwiau
===Awduron Groeg a Rhufeinig===
Ceir y cyfeiriad cyntaf at y ''Druridae'' gan awduron Groegaidd megis [[Soton o Alexandria]], a ddyfynir gan [[Diogenes Laertius]] yn yr ail ganrif CC.. Cyfeiria nifer o awduron Rhufeinig at ''druides'', yn arbennig gan [[Iŵl Cesar]] yn ei lyfr ''[[Commentarii de Bello Gallico]]'' . Dywed fod llawer o ddarpar-dderwyddon o [[Gâl]] yn cael eu gyrru i Brydain i'w haddysgu. Dywed awduron eraill megis [[Diodorus Siculus]] a [[Strabo]] fod y dosbarth offeiriadol Celtaidd yn cynnwys Derwyddon, [[bardd (Celtaidd)|beirddbardi]] (beirdd) a [[Vates]] (Ofyddion). Dywed Diodorus Siculus a rhai awduron eraill eu bod yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.
 
[[Image:Two Druids.PNG|bawd|chwith|Llun o ddau dderwydd, ar sail cerflun yn [[Autun]], Ffrainc.]]
 
Yn ôl [[Plinius yr Hynaf]] (23-79 OC) yn ei lyfr ''Hanes Naturiol'' y ceir y cyfeiriad cynharaf ar ran y [[derwen|dderwen]] a'r [[uchelwydd]] (''mistletoe'') yn nefodau'r derwyddon:
:Y mae'r [derwyddon] yn meddwl bod popeth sy'n tyfu arni (y dderwen) wedi ei anfon o'r nefoedd... Dyw'r uchelwydd ddim i'w gael yn aml ar y dderwen, a phan geir ef y mae'n cael ei hel gyda defodaeth grefyddol arbennig, os yn bosibl ar chweched dydd y lleuad... Maent yn galw'r uchelwydd wrth enw sy'n golygu, yn eu hiaith hwy, "gwella popeth". Ar ôl paratoi ar gyfer [[aberth]] a gwledd o dan y coed, y maent yn dod â dau [[tarw|darw]] yno ac yn clymu eu cyrn ynghyd am y tro cyntaf. Mae'r [[offeiriad]], wedi ei wisgo mewn gwyn, yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd â [[cryman|chryman]] aur, ac fe'i delir gan eraill mewn clogwyn gwyn. Yna y maent yn lladd yr ebyrth, gan weddïo ar dduw i fendithio'r rhodd... Maent yn credu bod yr uchelwydd, o'i gymryd mewn diod, yn rhoi ffrwythlondeb i anifeiliaid diffrwyth ac yn gwrthweithio pob gwenwyn.<ref>''Hanes Naturiol'' XVI.249, dyfynwyd gan Gwyn Thomas yn ''Duwiau'r Celtiaid'' (Gwasg Carreg Gwalch, 1992).</ref>
 
Ymddengys fod derwydd yn gorfod dysgu corff helaeth o ddysgeidiaeth ar ei gôf, gan nad oeddynt yn ei ysgrifennu. Gwaharddwyd dinasyddion Rhufeinig rhag ymwneud a defodau derwyddol gan yr ymerawdwr [[Augustus]] ac yn ddiweddarach eto gan [[Claudius]] yn 54 OC.
 
Mae'r hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn disgrifio'r ymosodiad ar [[Ynys Môn]] gan fyddin Rufeinig dan [[Gaius Suetonius Paulinus|Suetonius Paulinus]]. Yn wynebu'r milwyr Rhufeinig dros [[Afon Menai]] roedd derwyddon a gwragedd (ni ddywedir bod y gwragedd yn dderwyddon) yn cyhoeddi melltithion arnynt. Dywed Tacitus i'r Rhufeiniaid dorri y llwyni coed lle cynhelid eu defodau. Mae awgrym fod yr ynys o bwysigrwydd arbennig i'r derwyddon; efallai y gellir cysylltu hyn a'r offrymau niferus a chyfoethog a ddarganfuwyd yn [[Llyn Cerrig Bach]].
 
===Ffynonellau Cymreig a Gwyddelig===
Mae cyfeiriad hwyr ar dderwyddon gan [[Nennius]], sy'n dweud yn ei ''[[Historia Brittonum]]'' i [[Gwrtheyrn]] alw deuddeg derwydd ato wedi i Sant [[Garmon]] ei esgymuno o'r eglwys Gristionogol. Ceir llawer o gyfeiriadau at dderwyddon yn llenyddiaeth gynnar [[Iwerddon]], lle maent yn ymddangos fel cynghorwyr y brenhinoedd. Yng [[Cylch Wlster|Nghylch Wlster]] mae [[Cathbad]], prif dderwydd llys [[Conchobar mac Nessa|Conchobar]], brenin [[Ulaid|Wlster]], yn cael ei ddilyn gan gant o ddynion ieuanc sy'n dymuno dysgu ei grefft. Yn hanesion Iwerddon gall y derwyddon weld y dyfodol a bwrw hud.
Mae cyfeiriad hwyr ar dderwyddon gan [[Nennius]], sy'n dweud yn ei ''[[Historia Brittonum]]'' i [[Gwrtheyrn]] alw deuddeg derwydd ato wedi i Sant [[Garmon]] ei esgymuno o'r eglwys Gristionogol. Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair Cymraeg ''derwydd'' ei hun yn y [[canu darogan|gerdd ddarogan]] ''[[Armes Prydain]]'' (tua 930), ond mae'n sicr mae gair arall am [[proffwyd|broffwyd]] neu [[darogan|ddaroganwr]] ydyw yn hytrach na "derwydd" yn yr ystyr glasurol.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Armes Prydain''.</ref>
 
Mae cyfeiriad hwyr ar dderwyddon gan [[Nennius]], sy'n dweud yn ei ''[[Historia Brittonum]]'' i [[Gwrtheyrn]] alw deuddeg derwydd ato wedi i Sant [[Garmon]] ei esgymuno o'r eglwys Gristionogol. Ceir llawer o gyfeiriadau at dderwyddon yn llenyddiaeth gynnar [[Iwerddon]], lle maent yn ymddangos fel cynghorwyr y brenhinoedd. Yng [[Cylch Wlster|Nghylch Wlster]] mae [[Cathbad]], prif dderwydd llys [[Conchobar mac Nessa|Conchobar]], brenin [[Ulaid|Wlster]], yn cael ei ddilyn gan gant o ddynion ieuanc sy'n dymuno dysgu ei grefft. Yn hanesion Iwerddon gall y derwyddon weld y dyfodol a bwrw hud.
 
==Derwyddon modern==
 
Yn [[1649]], mynegodd yr hynafiaethydd [[John Aubrey]] y farn mai'r [[derwydd]]ion oedd yn gyfrifol am adeiladu [[Côr y Cewri]]. Mae'r farn honno dal yn boblogaidd heddiw, ac mae derwyddon modern yn cynnal defodau yno ar y dydd hwyaf o'r flwyddyn. Dechreuodd diddordeb gynyddu yn y derwyddon yn y [[18fed ganrif]], gyda [[William Stukeley]] a cyhfrol [[Henry Rowlands (Hynafiaethydd)|Henry Rowlands]], ''[[Mona Antiqua Restaurata]]'' yn ddylanwadol iawn. Efallai mai'r prif ddylanwad oedd [[Iolo Morganwg]]. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau yn cynnwys deunydd Iolo ar ôl ei farwolaeth, er enghraiift ''[[Barddas]]'' (dwy gyfrol: 1862, 1874). Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, er y credir bellach mai ffugiadau Iolo ei hun yw'r rhan fwyaf. Gelwir gradd uchaf aelodau [[Gorsedd y Beirdd]] yn "dderwyddon".
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
==Llyfryddiaeth==