Evan Evans (Ieuan Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwahaniaethu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Ymddengys i'w ddiddordeb mewn [[llenyddiaeth Gymraeg]] ddechrau trwy ei gysylltiad â [[Lewis Morris]]. Treuliodd lawer o amser yn copïo [[llawysgrifau Cymreig]], a bu'n gohebu llawer ag ysgolheigion yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys [[Goronwy Owen]], [[Dafydd Jones o Drefriw]] a Daines Barrington. Yn [[1764]] cyhoeddodd y [[blodeugerdd|flodeugerdd]] arloesol ''Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards'', sy'n cynnwys rhai o gerddi [[Aneirin]] a [[Taliesin]]. Cafodd ei noddi gan Syr [[Watkin Williams Wynn]] o 1771 hyd 1778, a bu'n gweithio yn llyfrgell [[Wynnstay]], ond digiodd Syr Watkin pan aeth Ieuan i [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]] i astudio [[Hebraeg]] ac [[Arabeg]] yn 1777-8 yn lle mynd ati i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil. Treuliodd y rhan fwyaf o ddeng mlynedd ddiwethaf ei oes yn byw gartref gyda'i fam; roedd [[alcoholiaeth]] wedi bod yn broblem iddo ers blynyddoedd.
 
Cyfansoddodd gerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac roedd yn [[englyn]]wr dawnus. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw'r gadwyn englynion 'Llys [[Ifor ap Llywelyn|Ifor Hael]]' a gyfansoddwyd pan ymwelodd ag adfeilion llys [[Ifor ap Llywelyn]] ('[[Ifor Hael]]', noddwr [[Dafydd ap Gwilym]]) ym [[Basaleg|Masaleg]] ym 1779 yng nghwmni [[Iolo Morgannwg]]. Mae ei gerdd Saesneg 'The Love of our Country' yn gerdd [[gwladgarwch|wladgarol]] sy'n ceisio tanio balchder y Cymry yn eu hetifeddiaeth lenyddol a'u hanes.
 
Trefnwyd rhywfaint o nodded iddo gan [[Paul Panton]] a [[Thomas Pennant]]. Ar farwolaeth Ieuan, trosglwyddwyd ei bapurau i Panton, a defnyddiwyd llawer ohonynt ar gyfer y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]''.