Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brynaich"

Lleihawyd o 2 feit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Teyrnas [[Eingl-Sacsonaidd]] yn ne-ddwyrain [[yr Alban]] a gogledd-ddwyrain [[Lloegr]] oedd '''Brynaich''' neu '''Bryneich''' ([[Saesneg]]: '''Bernicia'''). Sefydlwyd y deyrnas gan yr [[Eingl]] yn y [[6ed ganrif]], ond efallai fod teyrnas Frythonig o'r enw Brynaich wedi bodoli yn flaenorol.
 
Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o [[Afon Forth]] i [[Afon Tees]]; mewn termau modern roedd yn cyfateb i [[Northumberland]], [[Swydd Durham]], [[Swydd Berwick]] anda [[Dwyrain Lothian]]. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas [[Gododdin (teyrnas)|Gododdin]]. Efallai mai ei phrifddinas oedd [[Bamburgh]], a elwid yn ''Din Guardi'' yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut ([[Lindisfarne]]).
 
Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], a ddaeth i'r orsedd tua [[547]]. Unodd ŵyr Ida, [[Æthelfrith, brenin Northumbria|Æthelfrith]], deyrnas [[Deifr]] a'i deyrnas ei hun tua [[604]] i greu teyrnas [[Northumbria]].
37,236

golygiad