Fforwr o [[Rwsia]] oedd '''Vladimir Vasilyevich Atlasov''' neu '''Otlasov''' ([[Rwseg]]: Влади́мир Васи́льевич Атла́сов neu Отла́сов) (ganed yn [[Oblast Vologda|Veliky Ustyug]] rhwng [[1661]] a [[1664]] – [[1711]]). Roedd yn [[Cosac]] [[Siberia]]idd ac fe'i cofir fel y Rwsiad cyntaf i fforio [[Gorynys Kamchatka]] (yn [[Crai Kamchatka]], [[Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell]]). Enwir [[Ynys Atlasov]], ynys fwlcanig ger arfordir deheuol Kamchatka, ar ei ôl.
Atlasov oedd yr Ewropeiad cyntaf i weld [[Afon Golygina]] yn ne Kamchatka. Cyn cyrraedd Kamchatka roedd wedi fforio yn nwyrain [[Siberia]] a [[Dwyrain Pell Rwsia]] a chyrhaedd [[Môr Okhotsk]]. Cafodd ei gyhuddo o drin ei griw o Cosaciaid yn arw; fe'i llofruddwyd yn ei gwsg yn 1711.