John Williams (Ab Ithel): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Hynafiaethydd a chlerigwr Cymreig oedd '''John Williams (Ab Ithel)''' (1811 - 27 Awst 1862). Ganed ef yn Llangynhafal, yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Hynafiaethydd a chlerigwr Cymreig oedd '''John Williams (Ab Ithel)''' ([[1811]] - [[27 Awst]] [[1862]]).
Ganed ef yn [[Llangynhafal]], yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd ei enw barddol "Ab Ithel" o enw ei daid, William Bethell. Addysgwyd ef yng [[Coleg Iesu, Rhydychen|Ngholeg Iesu, Rhydychen]] a daeth yn gurad yn [[Llanfor]], lle priododd Elizabeth Lloyd Williams. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, ''Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain'' yn [[1836]]. Yn [[1843]] gaeth y gurad parhaol [[Nercwys]], ac yn [[1849]] daeth yn rheithor [[Llanymawddwy]]. Yn [[1846]] dechreuodd gyhoeddi ''[[Archaeologia Cambrensis]]'' gyda H. Longueville Jones, a bu yn ei olygu o 1846 hyd [[1853]], ac roedd ganddo ran amlwg yn sefydlu
Daeth Ab Ithel yn amlwg iawn ym maes ysgolheictod Gymreig yn ei ddydd, ac wedi marwolaeth [[Aneurin Owen]] penodwyd ef gan y llywodraeth i gwblhau'r cynllun o gyhoeddi yr ''[[Annales Cambriae]]'' a ''[[Brut y Tywysogion]]'', a ymddangosodd yn [[1860]]. Roedd yn drwm dan ddylanwad syniadau [[Iolo Morgannwg]], ac ni ystyrir ei waith o fawr werth gan ysgolheigion diweddar. Roedd yn un o brif drefnwyr [[Eisteddfod Fawr Llangollen]] yn [[1858]], pan wrthodwyd y wobr i [[Thomas Stephens]] am draethawd ar chwedl [[Madog]] am nad oedd yn derbyn gwirionedd yr hanes.
|