Brwydr Pont Stirling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Brwydr Pont Stirling Bridge''' ar [[11 Medi]], [[1297]], rhwng byddin Albanaidd dan [[William Wallace]] ac [[Andrew de Moray]] a byddin Seisnig dan [[John de Warenne, 7fed Iarll Surrey]] a [[Hugh de Cressingham]]. Ymladdwyd y frwydr ger y bont sy'n croesi [[Afon Forth]] ger [[Stirling]].
 
Roedd Surrey wedi ennill brwydr yn erbyn uchelwyr yr Alban ym Mrwydr Dunbar, ac efallai'n or-hyderus. Dechreuodd y fyddin Seisnig, oedd yn cynnwys llawer o Gymry, groesi'r bont gul; dim ond day farchog allai groesi ar y tro. Disgwyliai'r fyddin Albanaidd ar dir uwch, a phan oedd ychydig dros 5,000 o'r fyddin Seisnig wedi croesi, ymosodasant. Llwyddodd rhai o'r gwŷr traed i nofio ar draws yr afon i ddiogelwch, ond nid oedd fawr o obaith i'r marchogion. Lladdwyd dros gant ohonynt, yn cynnwys [[Hugh de Cressingham]]. BlimgwydBlingwyd corff Cressingham a gyrrugyrrwyd rhannau o'i groen yma ac acw fel prawf o'r fuddugoliaeth.
 
Ni allai Surrey a'r gweddill o'r fyddin gynorthwyo, ac enciliodd i gyfeiriad [[Berwick]], gan adael Iseldiroedd yr Alban yn nwylo Wallace. Clwyfwyd Andrew de Moray, a bu farw o'i glwyfau yn ddiweddarch.