Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 28:
Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn [[Sir Benfro]], dau yn [[Sir Aberteifi]], dau yn [[Sir Faesyfed]], un yn [[Sir Frycheiniog]] a deuddeg ym [[Morgannwg]]. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u [[gwartheg]] a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.
 
Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r [[Ceffyl Pren]]. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gydaorrrrrrrrrrrrrrrgggggggggggaaaaaaaaaaannnnnnnnnnngyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y person, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ôl yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd Beca <ref>'The Rebecca Riots' gan D Williams, tud 56; Gwasg Prifysgol Cymru 1955.</ref>.
 
Roedd rhesymau eraill am yr helyntion yn cynnwys: