Georgia (talaith UDA): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodaeth amrywiol
Llinell 33:
}}
Mae '''Georgia''' yn dalaith ar arfordir de-ddwyreiniol yr [[Unol Daleithiau]], sy'n ymrannu'n ddau ranbarth naturiol; [[Mynyddoedd yr Appalachian]] yn y gogledd a gwastadedd arfordirol yn y de. Cafodd ei sefydlu yn [[1732]] a'i henwi ar ôl y brenin [[Siôr II o Brydain Fawr]], yr hynaf o'r 13 talaith gwreiddiol. Cefnogodd y De yn [[Rhyfel Cartref America]] a dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad i ymgyrchoedd y Cadfridog [[William Tecumseh Sherman|Sherman]] yn [[1864]]. [[Atlanta]] yw'r brifddinas.
 
 
Sefydlwyd Georgia yn wreiddiol i amddiffyn [[De Carolina]] a thaleithiau eraill rhag ymosodiadau gan y Sbaenwyr yn [[Florida]]. Llywodraethwyd y dalaith gan ymddiriodolwyr yn [[Llundain]] am ei 20 mlynedd gyntaf.
 
Erbyn canol 19eg ganrif, roedd gan Georgia mwy o ystadau tobaco neu gotwm nac unrhyw dalaith arall efo defnydd eang o gaethwasanaeth.
 
Doedd gan ferched ddim hawl i bleidleisio yn Georgia tan 1922.
 
Ffurfiwyd Cynhadledd Arweinyddiaeth Cristion y De gan [[Martin Luther King]] ym 1957 yn [[Atlanta]].
 
Mae’r dalaith yn nodweddiadol am gynhyrchu [[eirin gwlanol]], [[cnau daear]] a [[cnau pecan]]. Dyfeiswyd [[Coca-Cola]] yn Atlanta ym 1886. <ref>[http://www.history.com/topics/us-states/georgia Gwefan history.com]</ref>
 
 
== Dinasoedd Georgia ==
Llinell 50 ⟶ 62:
| 6 || [[Macon, Georgia|Macon]] || 92,582
|}
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni Allanol ==