Marchogion Tiwtonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
addasu o'r Gwyddoniadur Cymreig
Llinell 1:
[[Delwedd:Crux Ordis Teutonicorum.svg|bawd|Ordenskreuz]]
Urdd o [[marchog|farchogion]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]] o'r [[Almaen]] oedd '''y Marchogion Tiwtonaidd''' neu'r '''Urdd Diwtonaidd'''. Chwaraeodd ran bwysig yn [[yr Oesoedd Canol]] wrth gynorthwyo Cristnogion ar [[pererindod|bererindod]] i'r Tir Sanctaidd ac i wladychu gwledydd dwyrain [[Môr Baltig|y Baltig]] gan yr Almaenwyr.
 
Darfu i ddioddefiadau'r Cristnogion yn adeg y gwarchae ar [[Acre, Israel|Acre]] (1189–91) gyffroi cydymdeimlad y marsiandwyr yn [[Bremen]] a [[Lübeck]], y rhai a wnaethant wasanaeth mor ragorol trwy sefydlu clafdai yn ystod [[y Drydedd Groesgad]]. Gyda caniatâd y [[Pab Clement III]] a'r [[Harri VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Ymerawdwr Harri VI]] ffurfiodd Ffredrig, Dug Swabia yr urdd, Marchogion Tiwtonaidd y Santes Fair o Gaersalem. Nid oedd caniatâd i neb ymuno â'r urdd ond Almaenwyr o waedoliaeth uchel, gan i'r sefydlwyr gwreiddiol gael eu gwneud yn bendefigion, dybygid, cyn eu derbyn i mewn. Ar y cyntaf yr oedd yr aelodau oll yn lleygwyr, ond yn raddol gollyngwyd [[offeiriad|offeiriaid]] i mewn fel [[caplan]]iaid. Gwisg yr urdd oedd mantell wen â chroes ddu arni. Cymerai'r marchogion adduned o dlodi a diweirdeb, ond nid oeddid yn gofalu ond ychydig amdanynt mewn amseroedd diweddar.
Y mae '''Marchogion Tiwtonaidd''' (hefyd '''Urdd Diwtonaidd''') yn [[urdd grefyddol]] o [[marchog|farchogion]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]] o'r [[Almaen]] a chwaraeodd ran bwysig yn yr [[Oesoedd Canol]] i gynorthwyo gwladychiad Dwyrain [[Môr Baltig|y Baltig]] gan yr [[Almaenwyr]].
 
Y lle cyntaf yr ymsefydlasant ynddo oedd Acre. Ar gwymp [[Teyrnas Caersalem]], symudodd y prif swyddog i [[Fenis]], ac oddi yno, ym 1309, i [[Marienburg]] ar lannau'r [[Afon Vistula|Vistula]]. Ymunodd yr urdd â Brodyr y Cleddyf yn [[Lifonia]] yn y flwyddyn 1237. Gyda chaniatâd y pab, cariasant ymlaen ryfel gwaedlyd ar lannau deheuol y Môr Baltig, yn y 13g, er cael y cenhedloedd a drigent yno dderbyn Cristnogaeth. Ymunodd rhyfelwyr o bob parth o Ewrop gyda hwynt yn y ganrif ddilynol, ac yn eu plith [[Harri IV, brenin Lloegr]] a thri chant o'i farchogion. Dechreuodd yr urdd adfeilio yn y 15g, a chwympodd mewn rhan oherwydd ymraniadau mewnol, ac mewn rhan o ganlyniad ymosodiadau gan y cenhedloedd cylchynol. Cymerwyd gorllewin [[Prwsia]] gan [[Zygmut I|Zygmunt I]], brenin Gwlad Pwyl, oddi ar y marchogion, a ffurfiwyd tiriogaethau yr urdd yn nwyrain Prwsia yn dalaith dan Albert o Brandenburg, a'i olynwyr. Yna symudodd y prif swyddog i Mergentheim yn Swabia, yr hwn a gydnabyddid fel tywysog o'r ymerodraeth. Pan wnaed Heddwch Presburg, ym 1805, trosglwyddwyd i ymerawdwr Awstria hawliau a chyllid y prif feistr, ond ym 1809 diddymwyd yr urdd gan [[Napoleon Bonaparte|Napoleon]], ac aeth y tiroedd perthynol iddo yn feddiant i benaduriaid y gwledydd lle y digwyddent fod. Y mae'r urdd Diwtonaidd, fodd bynnag, yn bod mewn rhyw ffurf yn Awstria eto, ac ers 1929 urdd gwbl grefyddol ydyw.
{{eginyn hanes}}
 
{{eginyn Cristnogaeth}}
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}
 
[[Categori:Hanes Ewrop]]
[[Categori:Hanes yr Almaen]]
[[Categori:Y Croesgadau]]
[[Categori:Hanes Ewropyr Almaen]]
[[Categori:HanesUrddau yr Almaencrefyddol]]
[[Categori:Urddau milwrol]]