Gerry Adams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 6:
 
Yn [[1983]] etholwyd ef yn llywydd Sinn Féin, ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros y blaid, y cyntaf ers y 1950au. Yn unol a pholisi ei blaid, ni chymerodd ei sedd yn San Steffan. Ar [[14 Mawrth]] [[1984]], clwyfwyd ef yn ddifrifol pan geisiodd rhai o arlodau'r [[UFF]] ei ladd. Collodd ei sedd yn San Steffan i [[Joe Hendron]] o'r [[SDLP]] yn etholiad [[1992]], ond enillodd hi yn ôl yn [[1997]].
 
Yn wahanol i arweinwyr blaenorol Sinn Féin, roedd Adams yn barod i roi blaenoriaeth i ymgyrchoedd gwleidyddol ac i drafod a phleidiau eraill. Yn nechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams a [[John Hume]], arweinydd y [[Social Democratic and Labour Party]] (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, [[David Trimble]], a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar [[10 Ebrill]] [[1998]],arwyddwyd [[Cytundeb Belffast]] rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y [[Democratic Unionist Party]] (DUP).
 
== Cyhoeddiadau ==