Gerry Adams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Yn wahanol i arweinwyr blaenorol Sinn Féin, roedd Adams yn barod i roi blaenoriaeth i ymgyrchoedd gwleidyddol ac i drafod a phleidiau eraill. Yn nechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams a [[John Hume]], arweinydd y [[Social Democratic and Labour Party]] (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, [[David Trimble]], a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar [[10 Ebrill]] [[1998]],arwyddwyd [[Cytundeb Belffast]] rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y [[Democratic Unionist Party]] (DUP).
 
Yn etholiad [[Cynulliad Gogledd Iwerddon]] ym mis Tachwedd [[2003]] i’r senedd, Sinn Féin a enillodd fwyaf o seddi o'r pleidiau cenedlaethol, gyda’r SDLP yn colli cefnogaeth. Gwelwyd yr un patrwm yn [[Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005]]. Ym mis Hydref, [[2006]], wedi trafodaethau yn [[St. Andrews]] yn [[yr Alban]], cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau, yn cynnwys y DUP. Ar [[8 Mai]] [[2007]] daeth [[Ian Paisley]], arweinydd y DUP, yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a [[Martin McGuinness]] o [[Sinn Féin]] yn Ddirprwy Brif Weinidog.