Hanes Gogledd Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 16:
Bu cryn dipyn o anghytuno rhwng y pleidiau, yn enwedig ar y pwnc o ddiarfogi, gyda rhai Unoliaethwyr yn dal nad oedd yr IRA yn cadw at y cytundeb i gael gwared o’u harfau. Am gyfnod, nid oedd y senedd yn Stormont yn weithredol. Yn etholiad Tachwedd [[2003]] i’r senedd, Sinn Féin a’r DUP a enillodd fwyaf o seddi, gyda’r SDLP a’r UUP yn colli cefnogaeth. Gwelwyd yr un patrwm yn [[Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005]]; dim ond un sedd a enillodd yr UUP, ac ymddiswyddodd David Trimble fel arweinydd.
 
Ym mis Hydref, [[2006]], wedi trafodaethau yn [[St. Andrews]] yn [[yr Alban]], cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau, yn cynnwys y DUP. Ar [[8 Mai]] [[2007]] daeth [[Ian Paisley]], arweinydd y DUP, yn Brif Weinidog a [[Martin McGuinness]] o [[Sinn Féin]] yn Ddirprwy Brif Weinidog.
 
==Gweler hefyd==