Mererid Wigley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Mereridwigley.jpg|frame|left|100px]]Newyddiadurwraig ddarlledu yw [[Mererid Wigley]] (ganwyd 11 Hydref 1976) sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] a [[Bwletin Ffermio]] ar [[S4C]].
 
Magwyd Mererid ar fferm yn Nhalywern ger [[Machynlleth]], sydd wedi bod yn nwylo'r teulu ers dechrau'r 17eg Ganrif, ac fe gafodd ei haddysg yn [[Ysgol Glantwymyn|Ysgol Gynradd Glantwymyn]] ac yna'n [[Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi]].
 
[[Delwedd:Mereridwigley.jpg|frame|left|100px]]Bu'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi a bu'n cystadlu'n Rali'r Sir, y Sioe Amaethyddol a'r Eisteddfod. Ymddiddorodd mewn ysgrifennu creadigol tra'n aelod o'r clwb, ac fe enillodd gadair Eisteddfod Sir y Ffermwyr Ifanc dair blynedd yn olynol, pan yn 17, 18 ac 19 oed.
 
Wedi gadael ysgol, aeth i astudio Llenyddiaeth Gymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Tra yno, fe gafodd gyfle i weithio'n achlysurol i [[BBC Radio Cymru]], ar y rhaglenni radio i bobl ifanc, [[Y Doctor Newyddion]] ac [[Y Profiad]] ac yna, yn cyflwyno'r bwletinau newyddion lleol o [[Aberystwyth]].