Stephen Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Anghydffurfiwr cynnar a chyhoeddwr Cymreig oedd '''Stephen Hughes''' (1622 - 1688). Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i sidanydd o'r enw John Hughes. Nid oe...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Anghydffurfiwr cynnar a chyhoeddwr Cymreig oedd '''Stephen Hughes''' ([[1622]] - [[1688]]).
 
Ganed ef yng [[CaergyrddinCaerfyrddin|Nghaerfyrddin]], yn fab i sidanydd o'r enw John Hughes. Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei fywyd cynnar, ond efallai iddo gael ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Daeth yn offeiriad [[Meidrim]] yn [[1654]], a daeth yn bur ddylanwadol pan oedd [[Oliver Cromwell]] mewn grym.
 
Dechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg tua [[1658]]. Yn [[1659]] cyhoeddodd ran gyntaf gwaith barddonol [[Rhys Prichard|y Ficer Prichard]], ac yn fuan wedyn cyhoeddodd yr ail ran. Wedi marwolaeth Cromwell, adferwyd [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl II]] i'r orsedd, a bu raid i Hughes adael ei fywoliaeth ym Meidrim. Bu'n pregethu a chadw ysgolion yn [[Sir Gaerfyrddin]], a tua [[1670]] ail-ddechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg, gan ddechrau gyda'r drydedd ran o waith y Ficer Prichard. Yn [[1672]] cyhoeddodd bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ynghyd a ''Llyfr Psalmau'' a [[Testament Newydd|Thestament Newydd]]. Yn [[Llundain]], cyfarfu a [[Thomas Gouge]] a [[Charles Edwards]], a bu'n cyfweithio a hwy. Yn [[1677]] cyhoeddodd ''Tryssor i'r Cymru'' a ''Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd''. Yn 1677-8 cyhoeddodd argraffiad rhad o'r Beibl, ac yn [[1681]] argraffiad newydd o waith Ficer Prichard, gan roi iddo'r teitl ''Canwyll y Cymru''. Yn [[1688]] cyhoeddodd gyfeithiad o waith [[John Bunyan]], ''[[Taith y Pererin]]'', wedi ei gyfeithu ganddo ef ei hun a thri arall. Bu farw yn [[Abertawe]] yn [[1688]].
 
[[Categori:Genedigaethau 1622|Hughes]]