Taith y Pererin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Dechreuodd Bunyan ysgrifennu'r llyfr pan oedd yng ngharchar [[Bedford]] am gynnal cyfarfodydd crefyddol heb fod dan awdurdod [[Eglwys Loegr]]. Ymddangosodd argraffiad wedi ei ehanu yn [[1679]], a'r Ail Ran yn [[1684]]. Mae'r stori yn [[alegori]] sy'n dilyn helyntion Cristion wrth iddo ffoi o'r Ddinas Ddihenydd a theithio tua'r ddinas nefol. Yn yr ail ran mae gwraig Cristion, Christiana a'u plant yn dilyn yr un daith.
 
Ymddangosodd yr argraffiad Cymraeg cyntaf yn [[1688]], wedi ei gyhoeddi gan [[Stephen Hughes]] acfel ''Taith neu Siwrnai y Pererin'', wedi ei gyfeithu ganddo ef ei hun a thri arall. Cyhoeddodd [[Thomas Jones yr Almanaciwr]] argraffiad arall yn [[1699]], a chyhoeddwyd llawer o argraffiadau Cymraeg yn y [[18fed ganrif]] ac yn enwedig yn y [[19eg ganrif]], yn cynnwys addasiadau i blant. Yn yr [[20fed ganrif]] cyhoeddwyd cyfeithiadau gan [[E. Tegla Davies]] a [[Trebor Lloyd Evans]].
 
[[Categori:Cristnogaeth yn Lloegr]]