Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dadwneud y golygiad 2581275 gan 195.194.57.211 (Sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 8:
Trawodd Beca gyntaf yn [[Efail-wen]] ar yr [[13 Mai]] [[1839]], gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y [[6 Mehefin]] yn yr un flwyddyn ac eto ar yr [[17 Gorffennaf]]. Llosgwyd y tolldy y tro hwn. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr [[1843]] a gwanwyn [[1844]] ledled [[Gorllewin Cymru|de-orllewin Cymru]]. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn [[Sir Gaerfyrddin]]. Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, [[Pontarddulais]]. Yr arweinydd oedd crydd lleol o'r enw Daniel Lewis. Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia gan nad oedd tystion ar gael. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/3846265.stm Gwefan Saesneg y BBC;] adalwyd 6 Gorffennaf 2015</ref>
 
'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Dywed rhai iddynt gael eu henwi ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu Beca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw fod yr enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod yn [[Llyfr Genesis]], Pennod 24, adnod 60, lle sonir am fam a brawd [[Rebecca (Beibl)|Rebecca]] yn gadael iddi fynd gydag bitch[[Eliezer]], gwas [[Abraham]], i briodi [[Isaac]]:
:''Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, "Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion."''