Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Canwyll y Cymry"

Lleihawyd o 3 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: Llyfr o waith Rhys Prichard (Y Ficer Prichard) yw '''''Canwyll y Cymry'''''. Gyda'r Beibl a Taith y Pererin, roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymro...)
 
B
Llyfr o waith [[Rhys Prichard]] (Y Ficer Prichard) yw '''''Canwyll y Cymry'''''. Gyda'r [[Beibl]] a [[Taith y Pererin]], roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.
 
Ysgrifennodd y Ficer Prichard''' ([[1579]]? - [[1644]]), ficer [[Llanymddyfri]], lawer o gerddi ar gyfer y werin yn argymell bywyd bucheddol. Ni chyhoeddwyd hwy tan [[1659]], pan gyhoeddodd [[Stephen Hughes]] y rhan gyntaf. Tua dechrau [[1660]] cyhoeddodd yr ail ran; a rhan arall yn [[1670]]. Yn [[1672]] cyhoeddodd Stephen Hughes bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ond hyd yma nid oedd wedi cael y teitl "Canwyll y Cymru". Cafodd y teitl yma yn [[1681]], pan gyhoeddodd Stephen Hughes argraffiad newydd gan roi iddo'r teitl ''Canwyll y Cymru: Sef, Gwaith Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri, A brintiwyd or blaen yn bedair rhan wedi ei cyssylltu yn un Llyfr''.
 
Mae'r farddoniaeth wedi ei hanelu at y wserin yn hytach na dysgedigion, ac yn annog byw bywyd Cristionogol yn wyneb sicrwydd angau:
37,236

golygiad